.io
Côd gwlad parth lefel uchaf (ccTLD) yw .io sy'n cael ei neilltuo ar gyfer Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India. Mae'r parth .io yn cael ei weinyddu gan gwmni sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig. Mae Google ar hyn o bryd yn trin .io fel parth generig lefel uchaf (gTLD). Er mwyn cofrestru parthau .io nid oes angen fod wedi'u sefydlu yn y Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India.[1]
Mae sylwebwyr wedi mynegi pryderon am foesoldeb y parth lefel uchaf oherwydd y ffaith nad oes dim byd o'r elw yn mynd i bobl Ynysfor Chagos.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "NIC.IO - The Indian Ocean .IO Domain Registry and Network Information Centre - Whois Search". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-22. Cyrchwyd 2014-12-29. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-05. Cyrchwyd 2018-11-05.
Gweler hefyd
golygu