Bae mawr ger arfordir Ffrainc a Sbaen yw Bae Bizkaia, hefyd Bae Vizcaya neu Bae Biscay (Sbaeneg: golfo de Vizcaya neu golfo de Gascuña, Ffrangeg: Golfe de Gascogne, Basgeg: Bizkaiko Golkoa). Cymer ei enw o dalaith Bizkaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Gwlff Gasgwyn amdano; mae'r Atlas Cymraeg Newydd yn dangos "Gwlff Gasgwyn" fel y rhan ddeheuol o'r bae.[1] Mae'r bae, sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd, yn ymestyn o benrhyn Ajo yn Cantabria (Sbaen) hyd dde Llydaw, ac yn cynnwys arfordir Gwlad y Basg ac Acwitania. Ei led yw tua 320 km (199 milltir).

Bae Bizkaia
Mathbae Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBizkaia, Gasgwyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
GwladFfrainc, Sbaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd223,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.5°N 4.4°W Edit this on Wikidata
Map
Llun lloeren o Fae Bizkaia

Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedig Bilbo, Pasajes a Burdeos. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo yw Afon Garonne; ymhlith yr afonydd eraill mae Afon Nervión ac Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Ffrainc a Sbaen.

Mae'r bae yn ddwfn ac yn tueddol i gael tywydd mawr ac felly'n gallu bod yn beryglus i longau. Mae'n bysgodfa pwysig: ymhlith y pysgod masnachol a ddelir yno ceir brwyniaid, cod, tiwna a sardîns.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 44.