Gwynfynydd
Enw ar ardal ger Afon Mawddach, Dolgellau yw Gwynfynydd, lle cloddiwyd am aur Cymru o 1860-1998.
Math | mwynglawdd |
---|---|
Gefeilldref/i | Dolgellau |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8371°N 3.8784°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Hanes
golyguYm 1863, darganfuwyd aur yng Ngwynfynydd yn y Ganllwyd ond nu fu cloddio am hir.[1]
Yn 1887, bu William Pritchard Morgan yn cloddio yn ddirgel am aur yng Ngwynfynydd am fisoedd ac ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd darganfyddiad gywhtien newydd o aur. Roedd William yn gobeithio cadw'r darganfyddiad yn gyfrinach cyn creu sioe a chyflwyno'r bar cyntaf o aur i Frenhines Fictoria.[1]
Ar ôl cyhoeddiad y newyddion, aeth degau o rai yno i gloddio a newyddiadura a bu'n rhaid i William wneud cais i'r llysoedd lleol i gadw dau gwnstabl ar y safle. Daeth William yn fwy cyfoethog byth ac adnabyddywd fel 'Brenin Aur Cymru'.[1]
Roedd William Pritchard Morgan eisoes wedi ennill ei ffortiwn yn ystod Rhuthr Aur Awstralia ond diolch i'w ddarganfyddiad ym Meirionnydd daeth Morgan yn fwy cyfoethog fyth.[1]
O dan berchnogaeth Morgan, cyflogwyd 200 o weithwyr yng Ngwynfynydd. Roeddent yn cloddio mewn twneli cul i fewn i'r graig dan olau cannwyll.[1]
Cafodd y chwarel olaf ei gau yn 1998 wedi i'r ardal gynhyrchu dros 2000 o bwysau aur (sef 62 kg) o aur Cymru - o'i gymharu gyda 78,507 o bwysau aur (sef 2,442 kg) o Mwynfeydd aur Clogau, gerllaw. Roedd y mwynfeydd ar agor i'r cyhoedd hyd at 1998 gyda theithiau rheolaidd i ymwelwyr a chyfle i chwilio gyda'r offer cywir yn yr afon.
Oherwydd deddfau yn ymwneud â halogi'r amgylchedd, a'r ffaith na chafwyd hyd i wythïen llawn aur, aeth y gwaith yn aneconomaidd a chaewyd y lle.
Delweddau
golygu-
Un o nifer o bontydd sy'n croesi Afon Mawddach gerllaw'r gwaith aur.
-
Dyma safle'r hen bont a sgubwyd ymaith gan lifogydd mawr 2001.
Gweler hefyd
golygu- Mwynfeydd aur Clogau ardal arall ger Llanelltyd, Dolgellau, lle mwyngloddiwyd aur
- Gwaith aur Dolaucothi, Sir Gaerfyrddin