John Morgan (ysgolhaig)
Ysgolhaig, bardd a llenor Cymraeg oedd John Morgan (7 Chwefror 1688 – 28 Chwefror 1733 neu 1734). Roedd yn glerigwr Anglicanaidd a oedd yn gasglwr llawysgrifau Cymreig ac yn gyfaill i Edward Lhuyd a Moses Williams. Cyfansoddodd nifer o gerddi Cymraeg yn ogystal â gweithiau rhyddiaith.[1]
John Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 1688 Llangelynnin |
Bu farw | 28 Chwefror 1733 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, person dysgedig, llenor, bardd |
Gyrfa
golyguGaned John Morgan ym mhlwyf Llangelynin, Meirionnydd, yn 1688. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Daeth yn gurad a threuliodd gyfnodau ym mhlwyfi Llandegfan, Môn, a Llanfyllin, Maldwyn, cyn symud dros Glawdd Offa i ofalu am guradaeth ym Matchin, Essex, lle daeth yn rheithor y plwyf.[2] Yno daeth i gysylltiad â bywyd llenyddol Cymry Llundain. Bu farw yn 1733.
Gwaith llenyddol
golyguCyfansoddodd nifer o gerddi Cymraeg, yn cynnwys carolau, pennillion serch a chaneuon ar bynciau moesol. Cyfansoddodd englynion coffa i'w gyfaill Edward Lhuyd.[1]
Ei brif waith rhyddiethol yw Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf. Cyhoeddodd yn ogystal gyfieithiad o'r Lladin i'r Gymraeg o un o lythyrau Tertullian.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf (1714)