Cariad tuag at lyfrau yw llyfrgarwch neu lyfr-addoliaeth, a gelwir person sy'n caru llyfrau yn llyfrgarwr a'r person sy'n mwynhau darllen, yn llyfrbryf.[1] Mae llawer o lyfrgarwyr yn casglu llyfrau ac yn defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus.

Der Bücherwurm (1850) gan Carl Spitzweg.

Mae llyfrgarwch yn wahanol i bibliomania, sef anhwylder gorfodaeth obsesiynol pan fo gan gasglu llyfrau effaith ddirywiol ar gysylltiadau cymdeithasol neu iechyd y bibliomaniac.[2]

Mae llyfrgarwyr enwog yn cynnwys Cicero, William Gladstone, John Maynard Keynes, a Thomas Jefferson a honodd, "Ni fedraf fyw heb lyfrau".[3]

"Chwilen ryfedd yw'r ysfa o hel llyfrau. Yn wir, tebyg yw'r llyfrbryf i ryw Alecsander Fawr yn sibrwd wrthoi'i hunan beunydd: "O! na fyddai byd arall i'w goncro!" Nid oes fyth ddigoni arno. Mae'n synhwyro llyfrau o hirbell, megis y mae'r meddwyn yn arogli cwrw."

Bob Owen, Croesor[4]

Cymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymraeg a Chymreig yw Cymdeithas Bob Owen. Fe'i sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976. Cafodd y gymdeithas ei henwi ar ôl yr hynafiaethydd a'r llyfrbryf enwog Bob Owen, Croesor.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 129 "bibliophile".
  2. Donaldson, Gerald. Books (Efrog Newydd: Van Nostrand Reinhold, 1981), t. 97.
  3. (Saesneg) Jefferson's Library. Llyfrgell y Gyngres. Adalwyd ar 4 Awst 2012.
  4. Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1979), tt. 50–1.

Darllen pellach

golygu
  • Fadiman, Anne. Ex Libris: Confessions of a Common Reader (Llundain: Penguin, 2000). ISBN 978-0-14-028370-9
  • Rugg, Julie a Murphy, Lynda (gol.). A Book Addict's Treasury (Llundain: Frances Lincoln, 2006). ISBN 0-7112-2685-7