Penycloddiau

bryngaer Geltaidd, ger Moel Arthur, Bryniau Clwyd

O holl fryngaerau Bryniau Clwyd, Penycloddiau (neu Pen-y-cloddiau) ydyw'r fwyaf gogleddol. Mae Llwybr Clawdd Offa'n croesi ei gopa. I'r dwyrain ohono mae Moel Plas-yw, ac i'r gogledd ohono saif Moel y Parc, gyda'i fast enfawr. Perthyn i Oes yr Haearn mae'r gaer hon, fel caer arall nid nepell ohoni, sef Moel Fenlli. Mae'r gaer yn 21 hectar o ran arwynebedd, sy'n ei gwneud y bumed mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd.[1][2] Mae'r cloddiau sy'n amgylchynnu'r gaer yn 1.93 km kilometr o hyd.

Penycloddiau
Mathsafle archaeolegol, bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd21 ±0.1 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr440 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1987°N 3.3055°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ128676 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd156 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel Famau Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBryniau Clwyd Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwFL009 Edit this on Wikidata

Mae Llwybr Clawdd Offa'n rhedeg drwy'r gaer o'r gogledd i'r de, drwy ddwy fynedfa hynafol a cheir peth treulio ar yr henebion gan effaith y cerdded. 53°12′N 3°19′W / 53.2°N 3.31°W / 53.2; -3.31 (Pen-y-Cloddiau (bryngaer).)

Pen-y-Cloddiau
Pen-y-Cloddiau
Pen-y-Cloddiau, Ysgeifiog

Yn 1962 ac wedyn yn 2003 a 2003 gwelwyd olion tai crynion ar lwyfanau o fewn y gaer - tua 43 i gyd - ac yn 2006 a 2009 cafwyd cloddio archaeolegol yno gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (CPAT). Ceir siambr gladdu ar y copa, siambr sy'n perthyn i'r Oes Efydd[1] (tua 4,000 o flynyddoedd oed) ac sydd, felly'n, hŷn na'r fryngaer ei hun. Cafodd y gloddfa hon ei harchwilio gan CPAT yn 2008.[3]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL009.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Delweddau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-15. Cyrchwyd 2010-08-30.
  2. Megalithic Portal
  3. Adroddiad ar yr ymchwiliad archaeolegol 2008[dolen farw]
  4. Cofrestr Cadw.

Dolenni allanol

golygu