William Rowland
ysgolfeistr ac awdur
Ysgolfeistr ac awdur oedd William Rowland (ganwyd William Rowlands; 16 Gorffennaf 1887 – 29 Rhagfyr 1979), a anwyd ym mhentref y Rhiw, ger Aberdaron, Gwynedd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd yn BA yn 1910, ac enillodd ei MA am draethawd ar Tomos Prys o Blas Iolyn. Ar ôl gweithio fel ysgolfeistr yn Ne Cymru yn Nhredegar Newydd (1911-14), Abersychan (1915-20; treuliodd oddeutu 1917-18 yn y fyddin) ac Abertawe (1920-24). Yn 1924 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol sir Porthmadog; arhosodd yn y swydd hyd ei ymddeoliad yn 1949.
William Rowland | |
---|---|
Ganwyd | 16 Gorffennaf 1887 Llanfaelrhys |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1979 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, llenor |
Llyfryddiaeth
golygu- Cawr yr Ogo a Straeon Eraill i Blant (1921)
- Chwedlau Gwerin Cymru (1923)
- Y Llong Lo (1924)
- Llawlyfr Dysgu Cymraeg (1924 a 1927, dwy gyfrol; fersiwn diwygiedig 1930)
- Bywyd ac Anturiaethau Robinson Crusoe (1928)
- Ymarferion Cymraeg (1934)
- Straeon y Cymry: Chwedlau Gwerin (1935)
- Gwyr Eifionydd (1953)
- Tomos Prys o Blas Iolyn (1564?-1634) (1964)