Affrica
Enghraifft o'r canlynol | cyfandir, lle, rhanbarth |
---|---|
Poblogaeth | 1,100,000,000 |
Rhan o | Ostfeste, y Ddaear, Affrica-Ewrasia, Afro-Asia |
Yn cynnwys | Gogledd Affrica, Canolbarth Affrica, Gorllewin Affrica, De Affrica, Dwyrain Affrica |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Erthygl am y cyfandir yw hon. Am ystyron eraill gweler Affrica (gwahaniaethu).
Affrica neu Yr Affrig yw'r cyfandir mwyaf ond un yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth, yn dilyn Asia. Mae tua 30,370,000 km² o dir yn Affrica – gan gynnwys ei hynysoedd cyfagos – sef 5.9% o arwynebedd y Ddaear, a 20.3% o arwynebedd tir y Ddaear. Mae dros 840,000,000 o bobl (2005) yn byw yng 61 tiriogaeth Affrica, sef dros 12% o boblogaeth ddynol y byd.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Daearyddiaeth Affrica
Affrica yw'r mwyaf o'r tri allaniad deheuol enfawr o brif fàs arwynebedd y Ddaear. Mae ganddi arwynebedd o tua 30,360,288 km² (11,722,173 mi sg); gan gynnwys yr ynysoedd.
Saif y Môr Canoldir rhwng Affrica ac Ewrop, tra bod Culdir Suez yn ei chysylltu ag Asia (mae Camlas Suez yn gorwedd rhyngddynt), sydd 130 km (80 milltir) o led (yn nhermau gwleidyddol, ystyrir penrhyn Sinai yn yr Aifft, sydd i'r dwyrain o Gamlas Suez, fel rhan o Affrica hefyd).
O'r pwynt mwyaf gogleddol, sef Cap Blanc (Ra’s al Abyad) yn Tiwnisia (37°21′ G), i'r pwynt mwyaf deheuol, sef Penrhyn Agulhas yn Ne Affrica (34°51′15″ D), mae pellter o tua 8,000 km (5,000 milltir). O'r pwynt mwyaf gorllewinol sef Cap-Vert yn Senegal, 17°33′22″ Gn, i'r pwynt mwyaf dwyreiniol sef Ras Hafun yn Somalia, 51°27′52″ Dn, mae pellter o tua 7,400 km (4,600 milltir).
Mae arfordir Affrica 26,000 km (16,100 milltir) o hyd. Wrth gymharu hyn ag Ewrop, sydd ag arwynebedd o 9,700,000 km² (3,760,000 mi sg); yn unig, tra bod hyd ei harfordir oddeutu 32,000 km (19,800 milltir), gwelwn fod siâp amlinelliad Affrica yn nodweddiadol rheolaidd, tra bod arfordir Ewrop yn llawn o ddanheddiadau dwfn.
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Hanes Affrica
Mae Affrica yn gartref i'r tir cyfannedd hynaf ar y ddaear, â'r hil ddynol yn tarddu o'r cyfandir yma. Yn ystod blynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif, darganfu anthropolegwyr nifer o ffosilau a thystiolaeth o weithgaredd ddynol, mor gynnar â 7 miliwn o flynyddoedd yn ôl, efallai. Darganfu'r teulu Leakey enwog (sydd â chysylltiadau â Phrydain ag Affrica), gweddillion ffosilaidd nifer o rywogaethau o fodau dynol cynnar, oedd yn debyg i epaod, megis Australopithecus afarensis (wedi'i ddyddio'n radiometregol i 3.9–3.0 miliwn o flynyddoedd CC), Paranthropus boisei (2.3–1.4 miliwn CC) a Homo ergaster (c. 600,000–1.9 miliwn CC). Credir eu bod wedi esblygu'n ddyn modern. Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau pwysig yn astudiaeth esblygiad dynol.
Datblygodd Affrica nifer o wareiddiaid unigryw, er enghraifft gwareiddiad yr Hen Aifft a Kush, Ethiopia, Simbabwe Fawr, ymerodraeth Mali a theyrnasoedd y Maghreb.
Yn 1482, sefydlodd y Portiwgaliaid y gyntaf o nifer o orsafoedd masnachu ar hyd arfordir Gini, yn Elmina. Y prif nwyddau a fasnachwyd oedd caethweision, aur, ifori a sbeisiau. Cafodd darganfyddiad America yn 1492 ei ddilyn gan ddatblygiad mawr yn y fasnach caethweision.
Ond ar yr un pryd roedd caethwasiaeth yn dod i ben yn Ewrop, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y pweroedd ymerodraethol Ewropeaidd "Ymgiprys am Affrica". Meddiannon nhw ran fwyaf o'r cyfandir, a chreu nifer o wladwriaethau a chenhedloedd trefedigaethol, gan adael ddim ond dwy genedl annibynnol: Liberia, gwladfa'r Americanwyr Duon, ac Ethiopia. Parhaodd y feddiannaeth tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny, fe enillodd y gwladwriaethau trefedigaethol annibyniaeth yn raddol, ac erbyn hyn maent i gyd yn annibynnol.
Heddiw, mae Affrica'n gartref i dros 50 o wledydd annibynnol, ac mae gan bob un ond am ddau yr un ffiniau a luniwyd yn ystod oes gwladychiaeth Ewropeaidd.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Affrica Drefedigaethol
[golygu | golygu cod]Fe ddi-sefydlogodd gwladychiaeth cytbwysedd grwpiau ethnig niferus y cyfandir, effaith sydd i'w deimlo yng ngwleidyddiaeth Affrica hyd heddiw. Cyn dylanwad Ewropeaidd, nid oedd ffiniau cenedlaethol yn llawer o broblem, ac ar y cyfan fe ddilynodd Affricanwyr arferion ardaloedd eraill y byd, megis Arabia, lle'r oedd tiriogaeth grŵp yn gyfath â'i ddylanwad milwrol neu fasnachol. Roedd gan yr arferiad Ewropeaidd o lunio ffiniau o gwmpas tiriogaethau, i'w arwahanu o diriogaethau'r pŵeroedd trefedigaethol eraill, yr effaith o arwahanu grwpiau ethnig cyfagos, neu orfodi gelynion traddodiadol i gyd-fyw, heb wahandir rhyngddynt. Er enghraifft, er bod Afon y Congo yn ymddangos fel ffin ddaearyddol naturiol, roedd pobl y ddwy ochr yn rhannu iaith, diwylliant a sawl tebygrwydd arall. Roedd rhaniad y tir rhwng Gwlad Belg a Ffrainc ar hyd yr afon yn arwahanu'r grwpiau yma o'i gilydd. Roedd y rhai oedd yn byw yn y Sahara neu'r Sahel ac wedi arfer masnachu dros y cyfandir am ganrifoedd yn gorfod croesi "ffiniau" oedd yn bodoli dim ond ar fapiau Ewropeaidd.
Economi
[golygu | golygu cod]Affrica yw gyfandir cyfannedd tlotaf y byd: darganfu Adroddiad Datblygiad Dynol 2003 y Cenhedloedd Unedig (o 175 o wledydd) caiff safleoedd 151 (Gambia) i 175 (Sierra Leone) eu cymryd i gyd gan wledydd Affricanaidd.
Fe gafodd Affrica trawsnewidiad ansefydlog ac ansicr o wladychiaeth, ac mae effeithiau hyn i'w gweld o hyd; mae cynnydd llygredigaeth ac unbennaeth wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefyllfa economaidd wael. Er bod tyfiant cyflym yn Tsieina ac India erbyn hyn, a thyfiant cymedrol yn America Ladin, wedi codi miliynau tu hwnt i fywoliaeth ymgynhaliol, mae Affrica wedi symud tuag yn ôl yn nhermau masnach dramor, buddsoddiad, ac incwm y pen. Mae gan y tlodi yma effeithiau eang, yn cynnwys disgwyliad oes is, trais, ac ansefydlogrwydd – ffactorau sydd yn eu tro'n gwaethygu'r tlodi.
Mae llwyddiannau economaidd y cyfandir yn cynnwys Botswana a De Affrica, sydd wedi datblygu cymaint bod ganddo gyfnewidfa stoc aeddfed ei hun. Mae dwy brif reswm am hyn: cyfoeth nwyddau naturiol y wlad (prif gynhyrchydd aur a diemyntau'r byd); a system gyfreithiol sefydledig y wlad. Hefyd mae gan De Affrica mynediad i gyfalaf economaidd, nifer o farchnadoedd a llafur medrus. Mae gwledydd Affricanaidd eraill (megis Ghana) yn gwella'n gymharol, ac mae gan rai (megis yr Aifft) hanes hir o lwyddiant masnachol ac economaidd.
Poblogaeth: | 887 miliwn (14%) |
CMC (PPP): | US$1.635 triliwn |
CMC (Pres): | $558 biliwn |
CMC/pen (PPP): | $1,968 |
CMC/pen (Pres): | $671 |
Cynnydd blynyddol yn CMC y pen: |
0.74% (1990–2002) |
Incwm y 10% top: | 44.7% |
Miliwnyddion: | 0.1 miliwn (0.01%) |
Poblogaeth sy'n byw ar lai na $1 y dydd: |
36.2% |
Dyled allanol fel canran o CMC |
60.7 (1998) |
Taliadau dyled allanol fel canran o CMC |
4.2% |
Derbyniad cymorth tramor fel canran o CMC |
3.2% (2001) |
Amcangyfrif incwm benywaidd | 51.8% o'r incwm gwrywaidd |
Ieithoedd
[golygu | golygu cod]- Prif: Ieithoedd Affrica
Mae rhan fwyaf o amcangyfrifon yn dweud fod gan Affrica dros fil o ieithoedd. Mae yna bedwar prif deulu ieithyddol sy'n frodorol i Affrica.
- Mae'r ieithoedd Affro-Asiatig yn deulu ieithyddol o tua 240 o ieithoedd a 285 miliwn o bobl yng Ngogledd Affrica, Dwyrain Affrica, y Sahel, a De Orllewin Asia.
- Mae'r ieithoedd Nilo-Saharaidd yn cynnwys dros gant o ieithoedd siaradwyd gan 30 miliwn o bobl. Siaradir ieithoedd Nilo-Saharaidd yn bennaf yn Tsiad, Swdan, Ethiopia, Wganda, Cenia, a gogledd Tansanïa.
- Siaradir ieithoedd Niger-Congo dros ran fwyaf o'r tir i dde'r Sahara. Mae siwr o fod yn deulu iaith fwyaf y byd yn nhermau ieithoedd gwahanol. Mae nifer sylweddol ohonynt yn ieithoedd Bantu.
- Mae'r teulu iaith Khoisan yn cynnwys tua 50 o ieithoedd siaradir gan 120 000 o bobl yn Ne Affrica. Mae rhan fwyaf o'r ieithoedd Khoisan mewn perygl. Ystyrir y bobl Khoikhoi a San yn drigolion gwreiddiol y rhan yma o Affrica.
Gwledydd Affrica
[golygu | golygu cod]Gogledd Affrica
[golygu | golygu cod]- Prif: Gogledd Affrica
Mae llawer o dir Gogledd Affrica yn sych iawn ac yn llawn diffeithiwch. Adnabyddir rhanbarth gorllewinol Gogledd Affrica fel y Maghreb.
Gorllewin Affrica
[golygu | golygu cod]- Prif: Gorllewin Affrica
- Benin
- Bwrcina Ffaso
- Cabo Verde
- Arfordir Ifori
- Y Gambia
- Ghana
- Gini
- Gini Bisaw
- Liberia
- Mali
- Mawritania
- Niger
- Nigeria
- Senegal
- Sierra Leone
- Togo
Canolbarth Affrica
[golygu | golygu cod]- Prif: Canolbarth Affrica
Mae canol Affrica wedi ei gorchuddio â fforestydd, ac mae'n boeth a gwlyb iawn yno. Mae'r cyhydedd yn mynd trwy ganol Affrica.
- Angola
- Camerŵn
- Gweriniaeth Canolbarth Affrica
- Gini Gyhydeddol
- Gabon
- Gweriniaeth y Congo (Brazzaville)
- Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (neu "Congo Kinshasa": hen enw Saïr)
- São Tomé a Príncipe
- Tsiad
Dwyrain Affrica
[golygu | golygu cod]- Prif: Dwyrain Affrica
- Bwrwndi
- Cenia
- Comoros
- Madagasgar
- Malawi
- Mawrisiws
- Mosambic
- Rwanda
- Sambia
- Seychelles
- Simbabwe
- Tansanïa
- Wganda
Corn Affrica
[golygu | golygu cod]- Prif: Corn Affrica
De Affrica
[golygu | golygu cod]- Prif: De Affrica (rhanbarth)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
| ||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear |