Rhydocs
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Ocsidiad)
Math | adwaith cemegol |
---|---|
Rhan o | Systems Biology Ontology |
Yn cynnwys | ocsidiad, rhydwythiad, hanner adwaith |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae rhydocs (o'r Saesneg redox, talfyriad o reduction-oxidation, rhydwythiad-ocsidiad yn Gymraeg) yn disgrifio pob adwaith cemegol lle mae rhif ocsidiad atomau yn cael ei newid; fel arfer, mae adweithiau rhydocs yn cynnwys trosglwyddiad rhwng rhywogaethau cemegol.
Gallai hynny fod naill ai yn broses syml o rydocs fel ocsidiad carbon i greu carbon deuocsid a rhydwythiad carbon gan hydrogen i greu methan (CH4), ynteu'n broses cymhleth fel ocsidiad siwgr yn y corff dynol trwy gyfres o brosesau cymhleth o drosglwyddo electronau.
Daw y term "rhydocs" o ddau gysyniad sy'n ymwneud â throsglwyddiad electron; rhydwythiad a ocsidiad[1]. Gallen nhw gael eu hesbonio'n syml:
- Colled electron(au) neu gynnydd mewn cyflwr ocsidiad gan moleciwl, atom, neu ïon ydy ocsidiad.
- Ennill electron(au) neu leihad mewn cyflwr ocsidiad gan moleciwl, atom, neu ïon ydy rhydwythiad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Redox Reactions". wiley.com.