Rydym yn adeiladu gwell Rhyngrwyd
Ein cenhadaeth yw sicrhau fod y Rhyngrwyd yn adnodd cyhoeddus byd-eang, yn agored ac ar gael i bawb. Rhyngrwyd sy'n wir yn gosod pobl yn gyntaf, lle gall unigolion siapio'u profiadau eu hunain ac sydd wedi eu hymrymuso, yn ddiogel ac yn annibynnol.
Yma yn Mozilla, rydym yn gymuned fyd-eang o dechnolegwyr, meddylwyr ac adeiladwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i gadw'r Rhyngrwyd yn fyw a hygyrch, fel y gall pobl ledled y byd fod yn gyfranwyr gwybodus a chrewyr y We. Rydym yn credu fod y weithred hon o gydweithio dynol ar draws llwyfan agored yn hanfodol i dwf unigol a'n dyfodol ar y cyd.
Darllenwch Maniffesto Mozilla i dysgu rhagor am y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n ein harwain yn ein cenhadaeth.
-
Ymuno â ni
Mae cyfleoedd gwirfoddoli mewn nifer o wahanol feysydd
-
Hanes
O le y daethom a sut rydym wedi cyrraedd fan hyn
-
Fforymau
Mae pynciau'n cynnwys cymorth, cynnyrch a thechnolegau
-
Llywodraethu
Ein strwythur, trefn a chymuned ehangach Mozillaa