Androgynedd
Enghraifft o'r canlynol | Mynegiant rhywedd, hunaniaeth |
---|---|
Math | sexual diversity |
Yn cynnwys | androgyne, Androgynos, androgynos |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Y cyflwr o fod â nodweddion rhyw neu ryweddol benywaidd a gwrywaidd yw androgynedd[1][2] neu weithiau gwrfenywdod.[2] Yn ei ystyr fiolegol mae'n gyfystyr â deurywiaeth fiolegol, hynny yw y deurywiad neu'r hermaffrodit: unigolyn a chanddo organau cenhedlu cwbl ddatblygedig o'r ddau ryw. Mae gan ddeurywiaid nodweddion corfforol sy'n gymysgedd o'r gwryw a'r fenyw.[3]
Yn ôl y seicolegydd, cyfeiria at berson a chanddo nodweddion personol cryf, ond nid o reidrwydd biolegol, a gysylltir â'r ddau ryw. Mae personoliaeth yr unigolyn androgynaidd yn cyfuno benyweidd-dra a gwrywdod: gwydnder ac addfwynder, pendantrwydd a natur fagwrol. Mae unigolion androgynaidd yn debycach o fod yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol na phersonau sy'n cadw at swyddogaethau rhyweddol traddodiadol. Yn sgil dyfodiad ffeministiaeth a'r mudiad hawliau i fenywod, daeth agweddau o ymddygiad androgynaidd yn fwy dderbyniol ac atyniadol nag yn y gorffennol.[3]
Roedd nifer o gymeriadau androgynaidd ym mytholeg Roeg, ac yn aml roeddent yn ymgorffori cyfuniad o nodweddion gwrywaidd a benywaidd dymunol. Weithiau cafodd y rhagweledydd dall Tiresias ei bortreadu'n ddeurywiad.[3] Yn Japan ceir genre cyfan o ffilmiau wedi'i seilio ar hyn, sef Futanari.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Termau: androgynedd. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2015.
- ↑ 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [androgyny].
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) androgyny. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2015.