Apollo 9
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | taith ofod gyda phobol |
---|---|
Màs | 43,196 cilogram, 5,032 cilogram |
Rhan o | Rhaglen Apollo |
Rhagflaenwyd gan | Apollo 8 |
Olynwyd gan | Apollo 10 |
Gweithredwr | NASA |
Gwneuthurwr | Rockwell International, Grumman |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Hyd | 867,654 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd y daith ofod Americanaidd Apollo 9 ei lansio o Fflorida ar 3 Mawrth 1969. Apollo 9 oedd y daith cyntaf i'w lansio gyda modiwl lleuadol - derbyniodd y cerbyd yr enw 'Spider' achos ei siâp - a threuliodd y criw 10 diwrnod yn cylchdroi'r Ddaear yn profi'r cerbyd. Roedd y daith yn gam pwysig ar hyd y ffordd i lanio dyn ar y Lleuad. Ei griw oedd Jim McDivitt, David Scott, a Rusty Schweickart.
Y bwster (neu roced) a'i gyrrodd oedd y Saturn V SA-504.