Neidio i'r cynnwys

Asyriaid

Oddi ar Wicipedia
Asyriaid
Plentyn ifanc Syrieg / Asyriaidd wedi'i wisgo mewn dillad traddodiadol
Enghraifft o'r canlynolGrŵp ethnogrefyddol Edit this on Wikidata
MathSemitiaid Edit this on Wikidata
MamiaithAssyrian neo-aramaic, northeastern neo-aramaic, acadeg edit this on wikidata
Poblogaeth1,230,000 Edit this on Wikidata
CrefyddCristnogaeth, eglwys asyriaidd y dwyrain, yr eglwys gatholig galdeaidd, yr eglwys uniongred syrieg, eglwys uniongred rwsia edit this on wikidata
Rhan oSemitiaid Edit this on Wikidata
GwladwriaethIrac, Unol Daleithiau America, Syria, Sweden, Iran, Twrci, Awstralia, Rwsia, Armenia, Canada, Georgia, Wcráin, Gwlad Groeg, Aserbaijan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig Semitaidd yw'r Asyriaid sydd yn frodorol i'r Dwyrain Canol. Trigasant hyd at 1 miliwn ohonynt yn eu mamwlad, yn ucheldiroedd gogledd Irac, gogledd Iran, de-ddwyrain Twrci, a gogledd-ddwyrain Syria. Mae rhyw 1–3 miliwn o Asyriaid, neu bobl o dras Asyriaidd, ar wasgar ar draws y byd. Maent yn Gristnogion sydd yn dilyn y ddefod Syrieg, ac yn siarad tafodieithoedd Aramaeg.

Baner gyfoes y bobl Assyraidd

Maent yn disgyn o'r hen Asyriaid a fu'n boblogaeth Mesopotamia, Babilonia, ac Ymerodraeth Asyria. Cawsant eu troi'n Gristnogion yn y 4g, a throdd rhai ohonynt yn Nestoriaid yn sgil y sgism yn y 5g. Cafodd nifer ohonynt eu lladd yng ngoresgyniadau'r Arabiaid yn y 7g, y Mongolwyr yn y 13g, a'r Tyrciaid yn y 14g. Yn sgil gorchfygiad Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1638, unodd y cymunedau Asyriaidd mewn ymgais i gadw eu ffydd. Yn y cyfnod 1914–1924, bu farw cannoedd o filoedd o Asyriaid mewn hil-laddiad gan yr Otomaniaid a'r Persiaid.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 44.