Barddas (cylchgrawn)
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Cyhoeddiadau Barddas |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 1976 |
Gwefan | https://www.barddas.cymru/ |
- Gweler hefyd: Barddas
Cylchgrawn sy'n ymwneud â barddoniaeth yw Barddas a sefydlwyd yn 1976 gan Alan Llwyd a Gerallt Lloyd Owen. Caiff ei gyhoeddi yn chwarterol gan Gyhoeddiadau Barddas (Y Gymdeithas Gerdd Dafod), sydd hefyd yn cyhoeddi llyfrau'n ymwneud â barddoniaeth Gymraeg.[1]
Yn wreiddiol, ymdrin â cherdd dafod oedd pwrpas y cylchgrawn. Argraffwyd y rhifyn cyfredol gan Wasg Dinefwr, Llandybïe; mae dros 300 o rifynnau wedi'u cyhoeddi.
Yn ôl y Cyngor Llyfrau, gall y gwerthiant fod mor fach a 500 copi gyda £6,000 o nawdd yn cael ei roi am y nifer hwn, sy'n golygu £12 o nawdd am bob copi.[2]
Golygyddion
[golygu | golygu cod]Y golygyddion gwreiddiol oedd sefydlwyr y cylchgrawn, Alan Llwyd a Gerallt Lloyd Owen. Daeth Llwyd yn olygydd ar ben ei hun rhwng 1983 a 2011 pan roddodd gorau i'r swydd.[3][4] Golygwyd y cylchgrawn dros dro gan Llion Jones a Peredur Lynch cyn penodi Twm Morys fel golygydd newydd gan ddechrau ei waith yn Ionawr 2012.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) literaturewales.org Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Golwg, cyfrol 24, rhif 13 (24 Tachwedd 2011)
- ↑ Pwy 'di Pwy: Alan Llwyd. Newyddion BBC (1 Chwefror 2000). Adalwyd ar 1 Mai 2016.
- ↑ Alan Llwyd yn rhoi’r gorau i olygu Barddas , Golwg360, 13 Mehefin 2011. Cyrchwyd ar 1 Mai 2016.
- ↑ Golygydd newydd Barddas , Golwg360, 19 Medi 2011. Cyrchwyd ar 1 Mai 2016.