Carlwm
Carlwm | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Mustelidae |
Genws: | Mustela |
Rhywogaeth: | M. erminia |
Enw deuenwol | |
Mustela erminia Linnaeus, 1758 | |
Dosbarthiad daearyddol |
Mamal cigysol bach o deulu'r Mustelidae yw'r carlwm (Mustela erminia). Mae'n debyg i'r gwenci ond yn fwy, ac mae ganddo gynffon hirach â blaen du. Mae corff a phen y carlwm gwrywaidd tua 28–31 cm (10–12 modfedd) o hyd; mae rhai'r fenyw yn 24–29 (9½–11½ modfedd); mae'r gynffon tua 9.5–14 cm (3¾–5½ modfedd).[1]
Mae'n byw mewn ffermdir, glaswelltir a choetir yn rhanbarthau gogleddol yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Mae'n gallu byw hyd at oddeutu 5 mlynedd, neu 6-8 oed yn eithriadol, ond fel arfer nid yw'n goroesi mwy nag 1–2 oed.
Mae carlymod yn bwyta mamaliaid bychain yn bennaf, yn enwedig cwningod a llygod dŵr lle mae'r rhain yn doreithiog. Byddant hefyd yn bwyta adar, wyau, ffrwythau a hyd yn oed pryfed genwair pan fydd bwyd yn brin.
Yn yr haf, mae blew ei gefn a'i ben yn gochfrown ac mae ei fol yn liw hufen neu yn wyn. Yn y hydref mae'n bwrw ei flew tywyll gyda'r canlyniad bod ganddo gôt welw yn y gaeaf. Yn y rhanbarthau mwyaf gogleddol, gall ei ffwr fod yn hollol wyn ar draws ei gorff cyfan, heblaw am y gynffon â blaen du. Yn y gwanwyn mae'n bwrw ei flew gwelw ac yn adennill ei gôt frown.
Gelwir côt wen aeafol y carlwm yn "ermin", ac yn draddodiadol mae masnach grwyn wedi ei gwerthfawrogi, yn enwedig i ddarparu'r deunydd ar gyfer gwisg seremonïol brenhinoedd, breninesau ac uchelwyr. Mae'r ermyn[2] yn symbol mewn herodraeth a banereg fel gwelir ar faner Llydaw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Stoat" Archifwyd 2021-03-03 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Mammal Society; adalwyd 19 Chwefror 2021
- ↑ "Ermin Ermyn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 Awst 2023.