Daearyddiaeth Affganistan
Gwlad fynyddig yng Nghanolbarth Asia yw Affganistan. Yn nhermau daearyddiaeth wleidyddol, mae'n gorwedd rhwng Iran i'r gorllewin, Pacistan i'r de a'r dwyrain a gwledydd cyn-Sofietaidd Canolbarth Asia i'r gogledd (Tyrcmenistan, Wsbecistan a Tadzhikistan). Yn y gornel ogledd-ddwyrain eithaf mae Coridor Wakhan yn ymestyn i ffin Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Mae Affganistan yn wlad o wastadeddau uchel a mynyddoedd. Mae cadwyn fawr yr Hindu Kush yn cyrraedd dros 7,000 m o uchder yn Tirich Mir, ar y ffin â Phacistan yn y gogledd-ddwyrain. Ceir amrywiadau mawr mewn hinsawdd mewn lle cymharol gyfyngedig, yn amrywio o hinsoddau sych ac isdrofannol i hinsawdd alpaidd eithafol yn y mynyddoedd.
Mae'r dinasoedd a threfi pwysig yn cynnwys y brifddinas Kabul a thref hanesyddol Ghazni yn y canolbarth, Herat a Kandahar yn y gorllewin, Faizabad, Konduz, Mazar-i-Sharif a Maimana yn y gogledd, a Jalalabad yn y dwyrain.
Mae dŵr yn gymharol brin yn y wlad, yn arbennig yn y de. Yr unig afonydd o bwys yw Afon Oxus, sy'n rhedeg ar hyd y ffin ogleddol; afon Hari Rud yn y canolbarth a'r gorllewin, Afon Helmand (Rud-e Helmand) yn y de-orllewin, sy'n rhedeg dros y ffin i Iran i gael ei llyncu yng nghorstir hallt Daryacheh-ye Sistan; ac Afon Kabul (Darya-ye Kabul) sy'n rhedeg o ardal Bwlch Khyber i gyfeiriad Kabul. Ond ym mynyddoedd y canolbarth a'r gogledd ceir nifer o ffrydiau ac afonydd llai.