Elystan Glodrydd
Elystan Glodrydd | |
---|---|
Ganwyd | 975 Cymru |
Bu farw | 1010 Y Trallwng |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Cuhelyn ab Ifor ap Severus ap Cydifor Wynwyn |
Priod | Gwenllian ferch Einion |
Plant | Cadwgan ab Elystan, Angharad ferch Elystan Glodrhydd |
Brenin Celtaidd a sefydlydd traddodiadol y pumed o Lwythau Brenhinol Cymru, yn ôl yr Achau Cymreig, oedd Elystan Glodrydd (975 - 1010).[1]
Sonir amdano yn Brut y Tywysogion, ond ychydig iawn a wyddys am Elystan ei hun. Gwyddom, fodd bynnag, iddo etifeddu Buellt a Gwrtheyrnion, a dyblodd maint ei dir greu ardal Rhwng Gwy a Hafren (Maesyfed heddiw) yng nghanolbarth Cymru. Yr enw arall ar y tir hwn yw Fferllys (hefyd Fferleg; Saesneg Ferlix), sydd yn ôl yr hanesydd John Davies yn dod o'r gair 'fferyll', gan gofnodi cysylltiad y rhan yma o'r wlad gyda chrefft trin haearn y gofaint.[2] Ar ochr ddwyreiniol ei diroedd codwyd Clawdd Offa, rhyw ddau gan mlynedd ynghynt. Yn Essex, trigai Æthelred Ddrwg ei Gynghor (neu'r 'Amharod'), a oedd y pryd hynny'n treulio pob awr o'r dydd yn ymladd, neu'n talu'r Llychlynwyr i gadw draw. Ond mewn cyferbyniad, llysenw da a phositif gafodd Elystan - y Clodrydd, cyfansawdd clod a rhydd.
Achau a llinach
[golygu | golygu cod]Ei dad oedd Culhelyn ab Ifor, Arglwydd Buellt (Culhelyn ab Ifor ap Severus ap Cadwr Wenwyn ab Idnerth ab Iorwerth Hirflawdd). Ganwyd yr olaf, sef y 6ed yn yr ach, tua 770: gyda'r saith ach (gan gynnwys Elystan) dros 220 o flynyddoedd. Gwen oedd ei fam, a'i mamgu ar ochr ei thad oedd Angharad, ferch Hywel Dda.
Priododd ddwywaith yn ôl Lewys Dwnn (c. 1550-1616):
- Gwenllian (neu Gwen) ferch Einion ab Owain ap Hywel Dda.
- Gwladyd ferch Rhûn ab Ednowain Bendew, Arglwydd Tegeingl (Sir y Fflint heddiw)
Dim on Gwenllian, mae Bartrum yn ei henwi yn ei wyth cyfrol Welsh Genealogies AD 300-1400, fodd bynnag.
O'r plant a enwir, Cadwgan ab Elystan yw'r un sy'n etifeddu teyrnas ei dad a chafodd fwy nag un gwraig, gan gynnwys Efa ferch Gwrgant ab Ithel - ei brawd Iestyn ap Gwrgant oedd Tywysog Morgannwg a phen 4ydd Llwyth Brenhinol Cymru. Priododd Iestyn chwaer Elystan, sef Angharad. Mae bedd Cadwgan i'w weld oddi fewn i Eglwys Sant Dogfan yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Nodir mewn Lladin ar y garreg: Cwgan filiau Edelstan a all, o bosib gyfeirio at 'Cadwgan mab Elystan'.[4] Llywelyn ap Cadwgan m. 1099), drwy orchfygu llawer o'i gefndryd a etifeddodd dir ac eiddo'i dad; ceir darn arian cyfred a fathwyd yn ei gastell yn Rhyd y Gors, Caerfyrddin gyda'r geiriau Llywelyn ap Cadwgan, Rex arnynt.[5]
Gwyddom hefyd bod ei ddisgynyddion, yn cynnwys Cadwallon ap Madog a oedd yn rheoli rhan o ardal Rhwng Gwy a Hafren.[6] Roedd disgynyddion eraill iddo yn teyrnasu ym Maelienydd ac Elfael.[7] gyda changen arall yn rheoli Cedewain.[8] Gorweddai'r tiriogaethau hyn i gyd yn y rhan o Gymru a elwid yn Rhwng Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol ac sy'n cyfateb yn fras i ardaloedd Maldwyn a Maesyfed ym Mhowys heddiw.
Mae un o'r achau Cymreig yn cofnodi bod Elystan yn gorwedd yn y seithfed ach o Iorwerth Hirflawdd,[9] pennaeth neu frenin o ardal Rhwng Gwy a Hafren a fu farw tua diwedd y 9g, yn ôl pob tebyg.
Roedd Owain Cyfeiliog (c.1130-1197), y bardd-dywysog o Teyrnas Powys yn fab i Gruffudd ap Maredudd a'i wraig Gwerful ferch Gwrgenau, o linach Elystan Glodrydd.
Chelsea a Llundain
[golygu | golygu cod]-
Elystan Street
-
Elystan Place; arwydd
Oherwydd y cysylltiad gyda theulu Cadogan dros y canrifoedd ceir nifer o lefydd yn Chelsea, Llundain sy'n dwyn yr enw Elystan:
- Elystan Street
- Elystan Place
A defnyddir y llysenw 'the Renowned' - y Glodrydd - ar y ddau le.[10]
Llefydd cysylltiedig eraill
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 12.
- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 12.
- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 20.
- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 20.
- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 20.
- ↑ P. C. Bartrum, Early Welsh Genealogical Tracts (Caerdydd, 1966), t. 104.
- ↑ Bartrum, op. cit., t. 104.
- ↑ Bartrum, op. cit., t. 105.
- ↑ Bartrum, op. cit., t. 104.
- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 12.