Emiliano Sala
Emiliano Sala | |
---|---|
Ganwyd | Emiliano Raúl Sala Taffarel (espagnol) 31 Hydref 1990 Cululú |
Bu farw | 21 Ionawr 2019 Môr Udd |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin, yr Eidal |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 187 centimetr |
Pwysau | 75 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Chamois Niortais F.C., US Orléans, Stade Malherbe Caen, FC Girondins de Bordeaux, FC Nantes, C.P.D. Dinas Caerdydd |
Safle | blaenwr |
Pêl-droediwr o'r Ariannin oedd Emiliano Raúl Sala Taffarel (31 Hydref 1990 – 21 Ionawr 2019). Bu farw mewn damwain awyren yn 28 mlwydd oed, ddiwrnodau ar ôl iddo arwyddo gyda Chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd.
Fe'i ganwyd yn Nhalaith Santa Fe, yn fab i Horacio Sala a'i wraig Mercedes Taffarel.
Diflaniad
[golygu | golygu cod]Ar 19 Ionawr 2019 arwyddodd Sala gytundeb gyda chlwb Dinas Caerdydd. Byddai'n trosglwyddo o glwb FC Nantes i Gaerdydd am tua £15 miliwn, a oedd yn record i'r clwb. Dychwelodd i Nantes yr un diwrnod i ffarwelio a'i gyd-chwaraewyr cyn teithio nôl i Gaerdydd i wylio'r gêm yn erbyn Newcastle.
Ar ddydd Llun, 21 Ionawr teithiodd Sala yn ôl o Nantes i Gaerdydd er mwyn dechrau ymarfer gyda tîm Caerdydd. Roedd yn teithio mewn awyren fechan Piper Malibu gyda'r peilot David Ibbotson. Yn ystod y daith gadawodd neges llais i'w ffrindiau drwy WhatsApp gan ddweud ei fod yn ofn fod yr awyren am "cwympo yn ddarnau". Diflannodd yr awyren o'r radar dros Môr Udd, ger Ynysoedd y Sianel a daethpwyd o hyd i'r awyren ar waelod y môr ar 3 Chwefror .[1] Codwyd y corff o'r awyren ar 6 Chwefror a'i gludo i Portland, Dorset. Yn hwyr ar 7 Chwefror cyhoeddodd yr heddlu fod y corff wedi ei adnabod yn ffurfiol fel Emiliano.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Atal y chwilio am awyren yn cludo Emiliano Sala am y dydd". Unknown parameter
|gwefan=
ignored (help); Unknown parameter|adalwyd=
ignored (help) - ↑ Emiliano Sala: Body identified as Cardiff City footballer (en) , BBC News, 7 Ionawr 2019.