Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2008
| |||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 538 o bleidleisiau'r Coleg Etholiadol UDA 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 58.2%[1] 1.5 pp | ||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
|
Etholiad arlywyddol 2008 oedd yr 56fed etholiad arlywyddol yr UDA. Fe'i cynhaliwyd ar ddydd Mawrth, 4 Tachwedd 2008. Trechodd y Seneddwr Barack Obama a'r Seneddwr Joe Biden o'r Blaid Ddemocrataidd, a oedd yn rhedeg fel Dirprwy Arlywydd, John McCain a Sarah Palin o'r blaid Weriniaethol. Barack Obama oedd yr Americanwr Affricanaidd cyntaf erioed i gael ei ethol fel Arlywydd yr Unol Daleithiau, a Joe Biden oedd y Paybydd cyntaf erioed i gael ei ethol fel Dirprwy Arlywydd. Dyma'r etholiad cyntaf i gynnwys dau brif ymgeisydd a oedd wedi'u geni y tu allan i daleithiau cyffiniol yr Unol Daleithiau: ganwyd Obama yn Hawaii a McCain yn Coco Solo Naval Air Station, ym 'Mharthau Camlas Panama'.
Nid oedd yr Arlywydd ar y pryd, George W. Bush o'r Blaid Weriniaethol, yn gymwys i gael ei ethol am drydydd tymor oherwydd cyfyngiadau o dan yr 22ain Gwelliant o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Erbyn Mawrth 2008, sicrhaodd McCain yr enwebiad Gweriniaethol, tra roedd gystadleuaeth gref rhwng Obama a'r Seneddwr Hillary Clinton yn y gystadleuaeth am enwebiad y Democratiaid. Roedd Clinton yn cael ei gweld fel yr unigolyn mwyaf tebygol o ennill yr enwebiad ond erbyn Mehefin 2008 roedd Obama wedi sicrhau'r enwebiad.
Canolbwyntiodd yr ymgyrchu cynnar ar Ryfel Irac ac amhoblogrwydd yr arlywydd George W. Bush ond wrth i'r Dirwasgiad Mawr ddechrau effeithio'r economi, newidiodd y ddadl i ganolbwyntio ar bolisiau mewnol y wlad.
Canlyniad yr Etholiad
[golygu | golygu cod]Canlyniad yr etholiad oedd i Obama drechu McCain, gan ennill y bleidlais boblogaidd a phleidlais y Coleg Etholiadol, gyda 365 o bleidleisiau gan y Coleg (o'i gymharu a 173 gan McCain). Enillodd Obama'r ganran fwyaf o'r bleidlais boblogaidd Democrataidd ers Lyndon B. Johnson yn 1964.[2][3]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn 2004, enillodd yr Arlywydd George W. Bush yr etholiad arlywyddol drwy guro'r enwebiad Democrataidd, sef y Seneddwr John Kerry. Yn ogystal, enillodd y Blaid Weriniaethol seddi yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr a'r Senedd yn etholiadau 2004 ac o ganlyniad, Gweriniaethwyr oedd yn rheoli'r canghennau gweithredol a deddfwriaethol y llywodraeth ffederal.[4]
Roedd poblogrwydd Bush wedi bod yn araf ddirywio o bron i 90% ar ôl ymosodiadau 9/11[5] i lawr i 50%. Yn ôl polau barn fe wnaeth ei boblogrwydd prin gyrraedd 50% yn y cyfnod a oedd yn arwain at etholiad arlywyddol 2005. Er hyn ailetholwyd Bush efo canran uwch o'r Coleg Etholiadol o gymharu â'r etholiad yn y flwyddyn 2000. Yn ystod ei ail dymor gostyngodd poblogrwydd George W Bush yn gyflym oherwydd Rhyfel Irac a'r ymateb ffederal i Gorwynt Katrina yn 2005[6].
Erbyn mis Medi 2006, roedd poblogrwydd Bush yn is na 40%[7], ac yn yr etholiadau ffederal mis Tachwedd 2006 fe enillodd y Democratiaid mwyafrif yn y ddau dŷ. Erbyn i George W Bush adael y Tŷ Gwyn roedd polau yn dangos bod y nifer a oedd yn ei gefnogi oddeutu 25-37%[8].
Enwebiadau
[golygu | golygu cod]Yn yr Unol Daleithiau, ceir dau brif blaid wleidyddol: y Blaid Ddemocrataidd a'r Blaid Weriniaethol. Mae hefyd nifer o bleidiau llai, y cyfeirir at y pleidiau hyn fel 'y drydedd blaid'. Fel arfer mae'r rhan fwyaf o gyfryngau'n canolbwyntio ar y ddwy brif blaid.
Mae ddwy brif blaid yn cynnal proses o ethol 'Enwebydd' er mwyn cynrychi'r blaid yn yr etholiad. Mae'r broses o enwebu yn cynnwys beth a elwir yn etholiadau cynradd (primaries) a caucuses, fe gynhaliwyd y rhain ym mhob un o'r 50 talaith, yn ogystal â Guam, Puerto Rico, Washington, D.C., Ynysoedd Virgin yr UDA, Samoa Americanaidd, ac Ynysoedd Gogledd Mariana.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Voter Turnout in Presidential Elections". Presidency.ucsb.edu. Cyrchwyd 2016-08-18.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2009. Cyrchwyd 31 Mai 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ fec.gov; adalwyd 30 Tachwedd 2016.
- ↑ http://usatoday30.usatoday.com/news/politicselections/2003-01-13-bush-poll_x.htm
- ↑ http://www.npr.org/templates/story/story.php?storyId=4860458
- ↑ http://users.hist.umn.edu/~ruggles/Approval.htm
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-03. Cyrchwyd 2016-11-29.