Illtud
Illtud | |
---|---|
Sant Illtud. Ffenestr gwydr lliw yn Eglwys y Drindod, Y Fenni. | |
Ganwyd | 480 |
Bu farw | 540 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | crefyddwr, mynach, henuriad |
Swydd | abad |
Dydd gŵyl | 6 Tachwedd |
Sant Cymreig cynnar oedd Illtud, weithiau Illtyd (Lladin: Hildutus) (bu farw c. 530). Ef oedd sylfaenydd mynachlog Llanilltud Fawr, ac ystyrir ef yn ffigwr allweddol yn hanes tŵf Cristnogaeth yng Nghymru fel olynydd Dyfrig. Ymddengys ei fod yn enedigol o dde Cymru neu o Lydaw.
Hanes a thraddodiadau
[golygu | golygu cod]Ceir y cyfeiriadau cynharaf at Illtud ym Muchedd ei ddisgybl, Samson o Dol, a ysgrifennwyd yn y 7g. Dywedir yma fod Illtud yn ddisgybl i Sant Garmon, ac mai ef oedd y mwyaf dysgedig o'r Brythoniaid, yn hyddysg yn yr efengyl, y traddodiad Lladinaidd clasurol a thraddodiadau ei bobl ei hun. Dywedir mai ef oedd abad ei fynachlog ym Morgannwg. Ymddengys o'r hanesion yma ei fod wedi bod yn briod ar un adeg, a bod ganddo gefndir milwrol.
Mae'r fersiwn cynharaf o Fuchedd Illtud yn llawer diweddarach, yn dyddio o tua 1140. Lluniwyd y fuchedd yma gan awdur Normanaidd, ac nid ymddengys fod llawer o sail hanesyddol iddi. Dywedir ei fod yn ŵr priod cyn ei droedigaeth, ac iddo yrru ei wraig i ffwrdd. Ymddengys fod hyn yn rhan o ymgyrch y Normaniaid yn erbyn yr arfer Cymreig o offeiriad priod. Dywedir iddo hwylio i Lydaw gyda llongau yn llawn o rawn pan oedd newyn yno. Yn ôl y fuchedd yma, roedd Illtud yn fab i uchelwr o Lydaw o'r enw Bican Farchog, oedd yn berthynas i Arthur. Roedd Sant Sadwrn yn frawd iddo. Dywedir i Illtud ddechrau ei yrfa fel milwr, ac iddo ef a'i ŵyr ymosod ar abaty Sant Cadog Llancarfan. Fel cosb, llyncwyd pob un heblaw Illtud ei hun gan y ddaear, a chafodd Illtud droedigaeth a mynd yn fynach.
Daeth ei fynachlog yn Llanilltud Fawr yn ganolfan ddysg eithriadol o bwysig. Ymhlith disgyblion Illtud rhestrir Dewi Sant, Pol Aurelian, Samson, Gildas, Derfel Gadarn, Seiriol, Baglan a Pedrog.
Lleoedd
[golygu | golygu cod]Ceir nifer fawr o eglwysi wedi eu cysegru i Illtud yng Nghymru, yn enwedig yn y de gan gynnwys: Llanilltud Fawr, Llantrisant (Morgannwg), Llanhiledd, Llanilltud Faerdref, Llanilltud Gŵyr ac Oxwich. Tu allan i Forgannwg ceir Llanelltyd, Meirionnydd
Ceir Bedd Gŵyl Illtud yng nghymuned Glyn Tarell, Powys; carnedd gron sy'n dyddio o Oes yr Efydd efallai. Yn yr un ardal o Frycheiniog ceir Pyllau Illtud, Tŷ Illtud a Mynydd Illtud hefyd.
Yn Llydaw mae ei enw ar bentref Lannildud ac ar yr Aber Ildut. Ei ddydd gŵyl yw 6 Tachwedd.
Llefydd a alwyd ar ôl Illtyd
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mewn llenyddiaeth, mae Illtud yn gymeriad yn y ddrama Buchedd Garmon gan Saunders Lewis, lle mae ef a Paulinus yn teithio i Gâl i ofyn i Garmon ddod draw i wlad y Brythoniaid.