Jean-Baptiste Say
Jean-Baptiste Say | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ionawr 1767 Lyon |
Bu farw | 14 Tachwedd 1832 former 2nd arrondissement of Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | economegydd, diwydiannwr, newyddiadurwr, cyfieithydd, llenor |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Say's law |
Tad | Jean-Étienne Say |
Mam | Françoise Castanet |
Plant | Horace Émile Say, Octavie Say |
Llinach | Say family |
Economegydd Ffrengig yn y traddodiad clasurol oedd Jean-Baptiste Say (5 Ionawr 1767 – 15 Tachwedd 1832). Rhoddai ei enw i ddeddf Say, sydd yn hawlio bod cyflenwad yn creu galw. Ei brif waith yw Traité d'économie politique (1803). Say oedd un o esbonwyr amlycaf syniadau Adam Smith, er iddo anghytuno â Smith ynglŷn â'i ddamcaniaeth llafur ynghylch gwerth.[1]
Gweithiodd Say i gwmni yswiriant, ac yna fel newyddiadurwr, cyn iddo olygu cylchgrawn am syniadau'r Chwyldro Ffrengig. Cafodd ei benodi i'r Dribiwnaeth yn 1799, a'i ddiswyddo yn ddiweddarach gan Napoleon. Sefydlodd melin gotwm yn 1807, a'i werthodd yn 1813. Cymerodd swydd yn dysgu economi ddiwydiannol yn Conservatoire des arts et métiers o 1817 a 1830, a bu'n athro ar bwnc economi wleidyddol yn Collège de France o 1830 hyd ei farwolaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) J.-B. Say. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2018.