Jim Yong Kim
Gwedd
Jim Yong Kim | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1959 Seoul |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, anthropolegydd, gwleidydd, academydd |
Swydd | Llywydd Banc y Byd |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Younsook Lim |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth MacArthur, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr Prince Mahidol, Great Immigrants Award |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Meddyg ac anthropolegydd Americanaidd a anwyd yn Ne Corea yw Jim Yong Kim (ganwyd 8 Rhagfyr 1959). Ef oedd Llywydd Banc y Byd o 1 Gorffennaf 2012 i 1 Chwefror 2019, ac ef oedd Llywydd Coleg Dartmouth o 2009 hyd 2012.
Ystyrir Kim yn un o arbenigwyr y byd ar ddatblygiad iechyd. Ef oedd un o sefydlwyr yr elusen Partners in Health ym 1987, ac o 2004 hyd 2006 gwasanaethodd yn swydd cyfarwyddwr adran HIV/AIDS Sefydliad Iechyd y Byd.[1][2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Trotman, Andrew (23 Mawrth 2012). World Bank president: Who is Jim Yong Kim?. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 4 Chwefror 2013.
- ↑ (Saesneg) World Bank presidential candidates profiled. BBC (23 Mawrth 2012). Adalwyd ar 4 Chwefror 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.