Katharine Ross
Katharine Ross | |
---|---|
Ganwyd | Katharine Juliet Ross 29 Ionawr 1940, 29 Ionawr 1943 Hollywood |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, llenor, awdur, actor llwyfan, actor teledu, awdur plant, actor ffilm, sgriptiwr |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Priod | Joel Fabiani, Unknown, Conrad Hall, Unknown, Sam Elliott |
Gwobr/au | Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran |
Actores o Unol Daleithiau America yw Katharine Ross (ganwyd 29 Ionawr 1940) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel sgriptiwr, actor, awdur plant, actor llwyfan , actor teledu ac actor ffilm
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ross yn Hollywood, California, ar Ionawr 29, 1940, pan oedd ei thad, Dudley Ross, yn y Llynges. Roedd hefyd wedi gweithio i'r Associated Press. Yn ddiweddarach ymgartrefodd ei theulu yn Walnut Creek, California, i'r dwyrain o San Francisco, a graddiodd o Ysgol Uwchradd Las Lomas ym 1957.[1]
Roedd Ross yn marchog brwd yn ei hieuenctid ac roedd yn ffrindiau â Casey Tibbs, marchog rodeo.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Astudiodd yng Ngholeg Iau Santa Rosa am flwyddyn (1957–1958) lle cafodd ei chyflwyno i actio trwy gynhyrchiad o The King and I. Gadawodd y cwrs a symud i San Francisco i astudio actio. Ymunodd â Gweithdy'r Actorion a bu gyda nhw am dair blynedd (1959-1962) Am un rôl yn The Balcony gan Jean Genet, ymddangosodd hi'n noethlymun ar y llwyfan. Ym 1964, cafodd ei castio gan John Houseman fel Cordelia mewn cynhyrchiad o King Lear.[3][4]
Aeth Ross ymlaen i gael gyrfa hynod lwyddiannus mewn Ffilm a theledu. Fe ymddangosodd mewn sawl sioe deledu yn y 1960au gan gwneud ei ymddangosiad ffilm cyntaf yn Shenandoah ym 1965. Llofnododd gontract gyda Universal ond gwnaeth ffilmiau gyda'r MGM hefyd.[5]
Yn 1967 enillodd enwogrwydd yn chwarae rhan Elaine Robinson yn y ffilm boblogaidd The Graduate, ochr yn ochr â Dustin Hoffman. Enillodd hi Golden Globe ac enwebiad am Oscar am y rôl yma. Enillodd Golden Globe hefyd am eu rol yn Voyage of the Damned ym 1978. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa ymddangosodd yn Donnie Darko.[6], Don't Let Go, a fel cyn-wraig Sam Elliott yn The Hero yn 2017
Mae Ross wedi sefydlu ei hun fel awdur, gan gyhoeddi sawl llyfr plant.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitle | Rôl |
---|---|---|
1965 | Shenandoah | Ann |
1966 | The Singing Nun | Nicole Arlien |
1966 | Mister Buddwing | Janet |
1967 | The Longest Hundred Miles | Laura Huntington |
1967 | Games | Jennifer Montgomery |
1967 | The Graduate | Elaine Robinson |
1968 | Hellfighters | Tish Buckman |
1969 | Butch Cassidy and the Sundance Kid | Etta Place |
1969 | Tell Them Willie Boy Is Here | Lola |
1970 | Fools | Anais Appleton |
1972 | Get to Know Your Rabbit | Nameless Woman |
1972 | They Only Kill Their Masters | Kate |
1974 | Chance and Violence | Docteur Constance Weber |
1975 | The Stepford Wives | Joanna Eberhart |
1976 | Voyage of the Damned | Mira Houser |
1978 | The Betsy | Sally Hardeman |
1978 | The Swarm | Helena |
1978 | The Legacy | Margaret Walsh |
1980 | The Final Countdown | Laurel Scott |
1982 | Wrong Is Right | Sally Blake |
1986 | Red Headed Stranger | Laurie |
1991 | A Climate for Killing | Grace Hines |
1997 | Home Before Dark | Rose |
2001 | Donnie Darko | Dr. Lilian Thurman |
2002 | Don't Let Go | Charlene Stevens |
2006 | Eye of the Dolphin | Lucy |
2013 | Wini + George | Wini |
2017 | The Hero | Val |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Kentucky New Era - Google News Archive Search".
- ↑ Bradford, Jack (June 18, 1968). "Off the Grapevine". Toledo Blade. Cyrchwyd August 10, 2010.
- ↑ Houseman, John (1984). Final Dress. Simon & Schuster. t. 263. ISBN 0-671-42032-1.
- ↑ Schumach, Murray (May 22, 1964). "Hollywood 'Lear' lures Carnovsky; Actor Blacklisted in '51 to Play Title Role at U.C.L.A." The New York Times. Cyrchwyd August 12, 2010.
- ↑ De Paolo, Ronald (March 1, 1968). "Sudden Stardom of the 'Graduate Girl'". Life. Cyrchwyd August 10, 2010.
- ↑ O'Hehir, Andrew (October 30, 2001). "Donnie Darko". Salon. Cyrchwyd August 10, 2010.[dolen farw]