Neidio i'r cynnwys

Marc Griffiths

Oddi ar Wicipedia

Darlledwr yw Marc Griffiths (ganwyd 23 Mawrth 1979 yng Nghaerfyrddin) sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel cyflwynydd ar BBC Radio Cymru bob nos Sadwrn.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Magwyd Marc ym mhentref Llanybydder ger Llanbedr Pont Steffan, a chafodd ei addysg yn Ysgol Llanybydder ac yna yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul.

Yn 1995, gadawodd yr ysgol a chafodd swydd llawn amser yn Theatr Felinfach fel technegydd, ac yn y stiwdio fach ar gampws y theatr y cafodd y cyfle i gyflwyno, recordio a golygu rhaglenni i Radio Ceredigion.

Ymunodd â BBC Radio Cymru yn 2000, ac mae bellach yn cyflwyno ei raglen ei hun bob nos Sadwrn am 7.15pm, a bu hefyd yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen arbennig i'r De Orllewin bob bore am 8.30am ar BBC Radio Cymru, yn dilyn marwolaeth Ray Gravell yn Hydref 2007. Roedd criw o bobl yn ei helpu ar ei raglen foreol, gan gynnwys Tomos Morse, Keith 'Bach' Davies a Wyn Jones.

Mae Marc hefyd wedi bod yn actio mewn ambell i gyfres deledu gan gynnwys Tafarn y Gwr Drwg, Tair Chwaer, Y Glas, Marinogion a Llafur Cariad.

Bu hefyd am gyfnod o wyth mlynedd yng nghwmni darlledwyr eraill fel Geraint Lloyd a Terwyn Davies, yn aelod o gwmni actorion Theatr Felinfach ac yn portreadu rhan un o'r dynion drwg yn eu pantomeim.

Cymru FM

[golygu | golygu cod]

Yn 2014 sefydlodd Marc wasanaeth miwsig Cymraeg 24 awr di-stop, Cymru FM.

Mae'r radio anfasnachol i'w chlywed ar wefan neu drwy app. Yn ogystal â chwarae cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn ddi-stop mae Cymru FM hefyd yn darlledu yn fyw o ddigwyddiadau ac yn cynnwys podlediadau o sefydliadau neu ysgolion sydd wedi recordio rhaglenni arbennig i'w darlledu ar y gwasanaeth.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Wedi cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, mae Marc bellach wedi ymgartrefu yn Nantycaws ar gyrion Caerfyrddin gyda'i deulu.