Mer esgyrn
Enghraifft o'r canlynol | meinwe, dosbarth o endidau anatomegol, cynnyrch bwyd |
---|---|
Math | meinwe, zone of bone organ, blood forming organ, endid anatomegol arbennig |
Yn cynnwys | bone marrow cells |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mêr esgyrn yw'r meinwe gyswllt meddal brasterog sy'n llenwi'r rhan fwyaf o geudodau esgyrn. Gyda bodau dynol, mae cell goch y gwaed yn cael eu cynhyrchu gan rhan tu mewn i'r mêr ym mhen esgyrn hirion mewn proses a elwir yn waedfagu (hemopoiesis). Ar gyfartaledd mae mêr esgyrn yn gyfwerth a 4% o mas y corff o fodau dynol; mewn oedolyn sydd a mas o 65 kg (143 lb), fyddai mêr yn cyfateb i tua 2.6 kg (5.7 lb). Mae'r cyfansoddyn gwaedfagol (hematopoietig) o mêr yn cynhyrchu tua 500 biliwn cell gwaed y diwrnod, sy'n defnyddio system fasgwlaidd y mêr fel cwndid i system gylchredol y corff.[1] Mae mêr hefyd yn elfen allweddol i'r system lymffatig, gan gynhyrchu'r lymffosytau sy'n cefnogi system imiwnedd y corff.[2] Yn ychwanegol i'r celloedd gwaedfagol, mae'r mêr yn cynnwys meinwe bloneg yn ogystal a'r asgwrn meddal (trabecwlaidd). Gall y gydadwaith rhwng y gwahanol celloedd yma a'u ffactorau lleol maent yn creu cael effaith ar gelloedd gwaedfagol o fewn y gilfach bôn-gell gwaedfagol.
Gall trawsblaniad mêr cael ei gynnal er mwyn trin clefydau difrifol y mêr, gan gynnwys mathau penodol o canser megis lewcemia. Yn ychwanegol mae bôn-gelloedd wedi cael eu newid, yn llwyddiannus, i gelloedd niwral gweithredol,[3] ac hefyd, o bosib, yn gallu cael eu defnyddio i trin clefydau megis clefyd coluddyn llidus.[4]
Y ddau fath o mêr yw ‘mêr coch’ (Lladin: medulla ossium rubra), sy'n cynnwys yn bennaf meinwe waedfagol [celloedd cochion y gwaed] a ‘mêr melyn’ (medwla) sy'n cynnwys yn bennaf celloedd bras. Mae celloedd cochion, platennau a rhan helaeth o'r celloedd gwynion i'w weld yn y mêr. Mae'r ddau fath o mêr yn cynnwyr nifer o bibellu gwaed a carpilarïau. Ar eni, mae'r ddau fath o mêr yn goch. Gyda oedran, mae mwy a mwy ohono yn cael ei droi i'r mêr melyn; dim ond hanner o mêr oedolion sy'n goch. Mae mêr coch fel arfer yn cael ei ddarganfod yn yr esgyrn gwastad megis y pelfis, sternwm, penglog, asennau, fertebrâu a'r pedyll ysgwyddau (sgapwlâu) ag yn yr deunydd trabecwlaidd (asgwrn meddal) ar bennau ardyfiannol agosaf esgyrn hirion megis asgwrn y forddwyd a'r hwmerws. Mae mêr melyn iw weld yn y geudod medwlaidd, y gwacle yng nghanol esgyrn hirion. Mewn achosion difrifol o golli gwaed, mae'r corff yn gallu newid y mêr melyn i fer coch er mwyn cynyddu cynhyrchiad celloedd cochion y gwaed.
Stroma
[golygu | golygu cod]Stroma'r mêr yw'r holl meinwe sydd ddim yn gysylltiedig yn uniongyrchol a prif weithred y mêr o waedfagu (hemopoiesis). Mae mêr melyn yn cyfrannu at rhan helaeth storma'r mêr, yn ychwanegol at grynodiadau o gelloedd stroma wedi eu lleoli yn y mêr coch. Er nid yw mor weithgar a'r mêr coch parencyma, mae'r stroma yn gysylltiedig yn anuniongyrchol yn waedfagu, gan ei fod yn darparu'r micro-amgylchedd gwaedfagol sy'n hyrwyddo'r waedfagu gan y celloedd parencymol. Er enghraifft, maent yn cynhyrchu ffactorau ysgogol cytref, sy'n cael effaith sylweddol ar waedfagu. Mae'r mathau o gelloedd sy'n cynnwys y stroma mêr yn cynnwys:
- ffibroblastau (meinwe gyswllt rhwydol)
- macroffabau, sy'n cyfrannu'n sylweddol at gynhyrchiad cell goch y gwaed, gan eu bod yn mynd a Haearn ar gyfer cynhyrchiad hemoglobin
- adypocytiau (celloedd bras)
- osteoblastiau (asgwrn synseseiddio)
- osteoclastiau (asgwrn atsugno)
- celloedd endothelaidd, sy'n ffurfio'r sinwsoidau. Mae rhein yn deillio o'r bôn-gell endothelaidd, sydd hefyd i'w weld yn y mêr.
Grwp | Math o gell |
Ffracsiwn Cymedredd |
Ystod Cyfeirnod |
---|---|---|---|
Celloedd Myelopoietic |
Myeloblasts | 0.9% | 0.2–1.5 |
Promyelocytes | 3.3% | 2.1–4.1 | |
Myelosytau niwtroffilig | 12.7% | 8.2–15.7 | |
Myelosytau eosinoffilig | 0.8% | 0.2–1.3 | |
Metamyelosytau niwtroffilig | 15.9% | 9.6–24.6 | |
Metamyelosytau eosinoffilig | 1.2% | 0.4–2.2 | |
Neutrophilic band cells | 12.4% | 9.5–15.3 | |
Eosinophilic band cells | 0.9% | 0.2–2.4 | |
Segmented neutrophils | 7.4% | 6.0–12.0 | |
Segmented eosinophils | 0.5% | 0.0–1.3 | |
Segmented basophils and mast cells | 0.1% | 0.0–0.2 | |
Celloedd Erythropoietic |
Pronormoblasts | 0.6% | 0.2–1.3 |
Basophilic normoblasts | 1.4% | 0.5–2.4 | |
Polychromatic normoblasts | 21.6% | 17.9–29.2 | |
Orthochromatic normoblast | 2.0% | 0.4–4.6 | |
Mathau eraill o gelloedd |
Megakaryocytes | < 0.1% | 0.0-0.4 |
Plasma cells | 1.3% | 0.4-3.9 | |
Reticular cells | 0.3% | 0.0-0.9 | |
Lymphocytes | 16.2% | 11.1-23.2 | |
Monocytes | 0.3% | 0.0-0.8 |
Gweithrediad
[golygu | golygu cod]Celloedd stromol mesencymaidd
[golygu | golygu cod]Mae stroma'r mêr yn cynnwys celloedd stromol mesencymaidd (MSCau), adnabyddir hefyd fel celloedd stromol mêr. Mae rhein yn celloedd stromol amlgref sy'n gallu addasu eu hunain i nifer o wahanol fathau o gelloed. Mae'n hysbys fod MSCau yn addasu, yn vitro neu'n vivo, i osteoblastau, condrostyau (celloedd cartilag), have been shown to differentiate, yn y groth neu mewn llestr, into osteoblasts, condrosytau, myosytau, marrow adipocytes and beta-pancreatic islets cells.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vunjak-Novakovic, G.; Tandon, N.; Godier, A.; Maidhof, R.; Marsano, A.; Martens, T. P.; Radisic, M. (2010). "Challenges in Cardiac Tissue Engineering". Tissue Engineering Part B: Reviews 16 (2): 169–187. doi:10.1089/ten.teb.2009.0352.
- ↑ The Lymphatic System. Allonhealth.com. Retrieved 5 December 2011.
- ↑ "Antibody Transforms Stem Cells Directly Into Brain Cells". Science Daily. 22 April 2013. Cyrchwyd 24 April 2013.
- ↑ "Research Supports Promise of Cell Therapy for Bowel Disease". Wake Forest Baptist Medical Center. 28 February 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 5 March 2013.
- ↑ Appendix A:IV in Wintrobe's clinical hematology (9th edition). Philadelphia: Lea & Febiger (1993).