Mingora
Gwedd
Math | dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 279,914 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swat |
Gwlad | Pacistan |
Uwch y môr | 984 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Swat |
Cyfesurynnau | 34.7717°N 72.36°E |
Dinas fwyaf dosbarth Swat, Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan yw Mingora (hefyd Mangora neu Mingaora weithiau) (Pashto: مینگورہ) . Gorwedd 984 metr (3231 troedfedd) i fyny yn rhan isaf Swat, ar lan Afon Swat, 2 km o Saidu Sharif, prifddinas weinyddol Swat. Yn 1998, roedd gan Mingora boblogaeth o tua 175,000. Ym Mawrth 2009 daeth y ddinas dan reolaeth y Taliban a'u cynghreiriad.
Ceir sawl safle archaeolegol ger Mingora, yn cynnwys safleodd a gysylltir â gwareiddiad Bwdhaidd hynafol Gandhara.
Yn nechrau mis Mai 2009 dechreuodd Byddin Pacistan ymosodiad ar y Taliban yn Swat ac roedd miloedd o bobl yn ceisio ffoi o'r ddinas i ddiogelwch rhag ofn iddi ddod dan ymosodiad yn y gwrthdaro sy'n rhan o ryfel ehangach yn y gogledd-orllewin.
Pobl o Mingora
[golygu | golygu cod]- Malala Yousafzai (1997-), ymgyrchydd, Gwobr Heddwch Nobel 2014