Oedolyn
Gwedd
Bod dynol neu organeb byw sydd o oed aeddfed ydy oedolyn. Gan amlaf cysylltir y term gydag aeddfedrwydd rhywiol a'r gallu i atgenhedlu. Yng nghyd-destun dynol, mae awgrymiadau eraill ymhlyg yn yr enw gyda chysyniadau cymdeithasol a chyfreithiol; er enghraifft, mae oedolyn cyfreithiol yn gysyniad cyfreithiol sy'n golygu person sydd wedi cyrraedd oedran lle caiff ei ystyried yn unigolyn annibynnol a chyfrifol am ei hun. Gellir diffinio bod yn oedolyn yn nhermau ffisoleg, datblygiad seicolegol oedolyn, y gyfraith, personoliaeth unigol neu statws gymdeithasol.