Pedwar mesur ar hugain
Llenyddiaeth Gymraeg |
---|
Rhestr llenorion |
Erthyglau eraill |
WiciBrosiect Cymru |
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Y Pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Fe'i cysylltir yn bennaf ag enwau Einion Offeiriad a Dafydd Ddu Hiraddug, dau fardd a geisiodd osod trefn ar y mesurau caeth yn y 14g. Yn ddiweddarach cafodd y Pedwar mesur ar hugain eu newid rywfaint gan Dafydd ab Edmwnd a'u defnyddio felly yn Eisteddfod gyntaf Caerwys (1523).
Camgymeriad fyddai tybied fod y mesurau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan y beirdd. Gan amlaf anwybyddid y rhan fwyaf ohonynt ac eithrio mewn ambell gerdd enghreifftiol fel gorchest lenyddol. Maent yn cynnwys wyth math o englyn, pedwar math o gywydd a deuddeg o fesurau eraill. Dyfeisiwyd tri o'r mesurau gan Einion Offeiriad yn y llyfr a adnabyddir fel Gramadeg Einion Offeiriad. Ar ganol y 15g, tynnodd Dafydd ab Edmwnd ddau fesur allan (sef yr englyn penfyr a'r englyn milwr a rhoi dau fesur eithriadol astrus o'i ben a'i bastwn ei hun i mewn, sef Gorchest Beirdd a Chadwynfyr.
Digwyddodd hynny yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1451[1]. Ni wyddys a gawsant eu defnyddio yn yr eisteddfod honno, ond yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 gosodwyd y rheol fod rhaid i fardd fedru canu ar y Pedwar Mesur ar Hugain. Er mor ymarferol oedd rhai o'r mesurau, bwriad y gyfundrefn oedd ceisio cadw bwlch rhwng y beirdd llys a'r beirdd llai a elwir yn Glêr (beirdd crwydrol tebyg i finstreliaid).
Y Mesurau
[golygu | golygu cod]Mesurau Dafydd ab Edmwnd
[golygu | golygu cod]Yn ôl dosbarthiad Dafydd ab Edmwnd, y Pedwar Mesur ar Hugain yw :
- Englyn unodl union
- Englyn unodl crwca
- Englyn cyrch
- Englyn proest cyfnewidiog
- Englyn proest cadwynog
- Awdl-gywydd
- Cywydd deuair hirion
- Cywydd deuair fyrion
- Cywydd llosgyrnog
- Rhupunt byr
- Rhupunt hir
- Cyhydedd fer
- Byr-a-thoddaid
- Clogyrnach
- Cyhydedd naw ban
- Cyhydedd hir
- Toddaid
- Gwawdodyn byr
- Gwawdodyn hir
- Hir-a-thoddaid
- Cyrch-a-chwta
- Tawddgyrch cadwynog
- Gorchest beirdd
- Cadwynfyr
Pan ofynnid am awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, disgwylid awdl ar y nifer a fynner o fesurau Dafydd ap Edmwnd yn aml rhwng 1938 a 1964. Hynny yw; y pedwar mesur ar hugain gan gynnwys yr englyn penfyr a'r englyn milwr er i Ddafydd eu diarddel o'i restr.
Yr Hen XXIV Mesur
[golygu | golygu cod]Dyma'r Pedwar Mesur ar Hugain fel y'u nodir yn Cerdd Dafod, John Morris-Jones:[2]
Englynion:
- Englyn Penfyr
- Englyn Milwr
- Englyn Unodl Union
- Englyn Unodl Crwca
- Englyn Cyrch
- Englyn Proest Dalgron
- Englyn Lleddfbroest
- Englyn Proest Cadwynog
Cywyddau:
Awdlau:
- Rhupunt
- Cyhydedd Fer
- Byr-a-thoddaid
- Clogyrnach
- Cyhydedd Naw Ban
- Cyhydedd Hir
- Toddaid
- Gwawdodyn
- Gwawdodyn Hir
- Hir-a-thoddaid
- Cyrch-a-chwta
- Tawddgyrch Cadwynog
Mesurau Dafydd Ddu Athro
[golygu | golygu cod]Dyma restr o'r pedwar mesur ar hugain yn ôl Dafydd Ddu Athro ar ôl iddo olygu Gramadeg Einion Offeiriad tua chanol y 14g. Fel hyn y safai'r gyfundrefn cyn 1451, ac yn ôl y rhestr hon y canodd Dafydd Nanmor ei awdl enghreifftiol.
Englynion
- Englyn Penfyr
- Englyn Milwr
- Englyn Unodl Union
- Englyn Unodl Crwca
- Englyn Cyrch
- Englyn Proest Cyfnewidiog
- Englyn Proest Cadwynog
Cywyddau
Awdlau
- Rhupunt byr
- Rhupunt hir
- Cyhydedd Fer
- Byr-a-Thoddaid
- Clogyrnach
- Cyhydedd Nawban
- Cyhydedd Hir
- Toddaid
- Gwawdodyn Byr
- Gwawdodyn Hir
- Hir-a-thoddaid
- Cyrch-a-chwta
- Tawddgyrch Cadwynog
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anghenion y Gynghanedd gan Alan Llwyd; Gwasg Prifysgol Cymru
- ↑ Cerdd Dafod gan John Morris-Jones, Rhydychen, 1925