Private Eye
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, satirical magazine |
---|---|
Golygydd | Ian Hislop, Richard Ingrams, Christopher Booker |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1961 |
Prif bwnc | dychan |
Sylfaenydd | Peter Usborne |
Pencadlys | Llundain |
Gwefan | https://www.private-eye.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cylchgrawn dychanol a materion cyfoes a gyhoeddir yn bythefnosol yn y Deyrnas Unedig yw Private Eye. Golygydd cyfredol y cylchgrawn yw Ian Hislop. Fe'i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1961 ac mae'n enwog am ddychanu a lambastio enwogion a phobl cyhoeddus sydd (yn llygad y cylchgrawn) yn euog o unrhyw beth megis hunan falchder, twyll neu anallu person i gyflawni gofynion ei swydd. Mae'n ystyried ei hun yn rhyw fath o ddraenen yn ystlys y sefydliad.
Ceir yn y cylchgrawn golofn o'r enw Wikipedia Whispers sy'n dadlennu achosion o bobl sy'n ehangu erthyglau Wikipedia arnyn nhw eu hunain.