Sienna Miller
Sienna Miller | |
---|---|
Ganwyd | Sienna Rose Diana Miller 28 Rhagfyr 1981 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llais, actor llwyfan, actor teledu, model, actor, dylunydd ffasiwn, cymdeithaswr |
Partner | Jude Law, Tom Sturridge |
Actores, model a dylunydd ffasiwn o Loegr yw Sienna Rose Miller (ganwyd 28 Rhagfyr 1981). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôlau yn Alfie, Factory Girl ac The Edge of Love.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Miller yn Efrog Newydd, a symudodd ei theulu i Lundain pan oedd ond un oed. Mae ei mam, Josephine, yn gyn-fodel a aned yn Ne Affrica.[1] Roedd ei thad, Edwin Miller, yn fancwr Americanaidd, sydd eisoes wedi troi'n ddeliwr celf Tseiniaidd.[2] Mae gan Miller chwaer, Savannah, a dau hanner-brawd, Charles a Stephen.[3] Mynychodd Miller Heathfield St Mary's School, ysgol breswyl yn Ascot, Berkshire, ac astudiodd yn Athrofa Lee Strasberg yn Efrog Newydd yn ddiweddarach.[3] Mae ganddi basbort Prydeinig ac Americanaidd, a cafodd ei thrwydded yrru cyntaf yn Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau, gan fod pasio yno gyntaf yn golygu y gallai yrru yn yr Unol Daleithiau a Phrydain.[4]
Bywyd bersonol
[golygu | golygu cod]Cafodd berthynas gyhoeddus gyda'r actor Jude Law, ei cyd-actor yn Alfie, a dyweddiodd y pâr ar ddydd Nadolig 2004.[5] Ar 8 Gorffennaf 2005, gwnaeth Law ymddiheuriad cyhoeddus i Miller, wedi iddo gael carwriaeth gyda mamaeth ei blant.[6] Gwahanodd y ddau y mis Tachwedd canlynol, wedi methu ac achub eu perthynas.[7] Bu Sienna Miller yna mewn perthynas â nifer o actorion eraill, gan gynnwys Rhys Ifans, Matthew Rhys a Daniel Craig. Ers 2011, mae wedi bod mewn perthynas â'r actor Tom Sturridge, ac mae'n feichiog gyda'i blentyn.[8]
Helynt hacio ffonau
[golygu | golygu cod]Yn dilyn gwrandawiad yn yr Uchel Lys Fym mis Mai 2011, bydd Sienna Miller yn derbyn £100,000 o iawndal oddi wrth News of the World, wedi i'r papur gyfaddef eu bod wedi hacio ei ffôn.[9] Ym mis Tachwedd 2011, bu'n un o'r prif dystion i ymddangos o flaen Ymchwiliad Leveson i hacio ffonau.[10] Daeth ei datganiad i frig y newyddion yn ddiweddarach:[11]
“ | I would often find myself almost daily, I was 21, at midnight running down down a dark street on my own with 10 big men chasing me. The fact that they had cameras in their hands meant that that was legal. But if you take away the cameras, what have you got? You've got a pack of men chasing a woman, and obviously that's a very intimidating situation to be in. | ” |
Ffilmograffi
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2001 | South Kensington | Sharon | |
2002 | High Speed | Savannah | |
2002 | The Ride | Sara | |
2004 | Layer Cake | Tammy | |
2004 | Alfie | Nikki | |
2005 | Casanova | Francesca Bruni | |
2006 | Factory Girl | Edie Sedgwick | |
2007 | Interview | Katya | |
2007 | Camille | Camille Foster | |
2007 | Stardust | Victoria | |
2008 | The Mysteries of Pittsburgh | Jane Bellwether | |
2008 | A Fox's Tale | Darcey (Llais) | |
2008 | The Edge of Love | Caitlin Macnamara | |
2009 | G.I. Joe: The Rise of Cobra | Ana Lewis/Anastascia DeCobray/The Baroness | |
2011 | Two Jacks | Diana | |
2011 | New Year's Eve | Unknown | |
2012 | Yellow | Xanne | |
2013 | Alfred Hitchcock and the Making of the Birds | Tippi Hedren | |
I'w gadarnhau | Hippie Hippie Shake | Louise Ferrier |
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2002 | The American Embassy | Babe | 1 pennod |
2002 | Bedtime | Stacey | 4 pennod |
2003–2004 | Keen Eddie | Fiona Bickerton | 13 pennod |
2009/2011 | Top Gear | Hi ei hun | 2 pennod |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sienna Miller: a sense of theatre. Telegraph (7 Mehefin 2008).
- ↑ Sienna Miller Denies Having Temper Tantrum. People.com. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2011.
- ↑ 3.0 3.1 Sienna Miller Biography. thebiographychannel.co.uk. Adalwyd ar 6 Medi 2009.
- ↑ Ice Race - Pennod 5, Top Gear - cyfres deledu rhif 13, BBC, 19 Gorffennaf 2009
- ↑ Stephen M. Silverman. "Jude Law to Marry Girlfriend Sienna Miller", People, 5 Ionawr 2005.
- ↑ "I cheated on Sienna: Jude", Sydney Morning Herald, 8 Gorffennaf 2005.
- ↑ Pete Norman. "Jude Law and Sienna Miller Call It Quits", People, 12 Tachwedd 2006.
- ↑ "Sienna Miller 'is expecting first baby with boyfriend Tom Sturridge'", 6 Ionawr 2012.
- ↑ Sienna Miller awarded £100,000 over phone hacking (13 Mai 2011).
- ↑ Sienna Miller's written statement to the Leveson inquiry – full text. Guardian (24 Tachwedd 2011).
- ↑ Leveson Inquiry: Actress Sienna Miller gives evidence. BBC (24 Tachwedd 2011).