Tacitus
Gwedd
Tacitus | |
---|---|
Ganwyd | c. 54, Unknown Gallia Narbonensis |
Bu farw | c. 120 yr Ymerodraeth Rufeinig |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd, person milwrol, bardd, athronydd, cofiannydd, croniclwr, cyfreithegwr, llenor |
Swydd | tribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, Conswl Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig |
Adnabyddus am | Annals, Histories, Germania, Cofiant Agricola, llywodraethwr Prydain, Dialogus de oratoribus |
Arddull | hanes |
Priod | Julia Agricola |
Pwnc yr erthygl hon yw'r hanesydd. Am yr ymerawdwr Rhufeinig o'r drydedd ganrif, gweler Tacitus (ymerawdwr).
Hanesydd Rhufeinig a llenor yn yr iaith Ladin oedd Gaius Cornelius Tacitus neu Publius Cornelius Tacitus neu yn Gymraeg Tegid[1] (c.56 - 117 O.C.). Credir iddo gael ei eni yn nhalaith Gallia Narbonensis (de Ffrainc heddiw), ond nid oes sicrwydd am hynny. Mae'n bosibl mai asiant imperialaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl a oedd yn gyfrifol am dalu llengwyr Rhufeinig byddin y Rhein oedd ei dad. Cafodd Tacitus ei eni tua 55 O.C., yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Claudius. Bu marw tua diwedd teyrnasiad Trajan (98 - 117) neu'n fuan ar ôl hynny. Chwareai rhan bur bwysig ym mywyd cyhoeddus ei oes ond fe'i cofir yn bennaf am ei gyfraniad arbennig i lên hanes.
Gwaith Tacitus
[golygu | golygu cod]Mae pump o weithiau Tacitus wedi goroesi (tri yn gyfan, dau yn rhannol).
- (98) De vita Iulii Agricolae (Bywgraffiad Iŵl Agricola neu'r Agricola). Bywyd Agricola, tad yng nghyfraith Tacitus. Pwysig iawn am ei ddisgrifiad o'r Brydain Rufeinig, gan gynnwys hanes ymosodiad Suetonius Paulinus ar Ynys Môn.
- (98) De origine et situ Germanorum (Germania). Llyfr am lwythau Germanaidd yr Almaen.
- (102) Dialogus de oratoribus (Trafodaeth ar Areithyddiaeth)
- (105) Historiae (Hanes). Hanes Rhufain ar ddiwedd y ganrif gyntaf.
- (117) Ab excessu divi Augusti (Croniclau neu'r Annales). Efallai y pwysicaf o'i lyfrau. Dim ond pedwar llyfr a rhan o bumed sydd wedi goroesi. Hanes Rhufain a'i hymerodron o amser Augustus i Nero a geir ynddo.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith Tacitus mewn cyfieithiad
[golygu | golygu cod]- Michael Grant (cyf.), Tacitus: On Imperial Rome (Llundain, 1956 ac wedyn). Yr Annales. Clasur o gyfieithiad Saesneg yn nghyfres Penguin.
- John Owen Jones (cyf.), O Lygad y Ffynnon (Y Bala, 1899). Cyfieithiad Cymraeg darllenadwy o rannau o'r Agricola (a gweithiau gan hanesyddion eraill).
- H. Mattingly (cyf.), Tacitus: On Britain and Germany (Llundain, 1948 ac wedyn). Yr Agricola a'r Germania yn llyfrau Penguin.
- A.O. Morris (cyf.), Cofiant Agricola, Llywodraethwr Prydain / Cornelius Tacitus (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1974). ISBN 0-7083-0560-1
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Tacitus].