Neidio i'r cynnwys

Trosedd rhyfel

Oddi ar Wicipedia

Gweithred sy'n mynd yn erbyn cytundebau ar yr hyn a ganiateir mewn rhyfel neu sy'n groes i arferion rhyfel yw trosedd rhyfel.[1] Gall troseddau rhyfel gynnwyd lladd neu arteithio carcharorion rhyfel, targedu y boblogaeth sifil neu ddinistrio eiddo'r boblogaeth sifil yn ddiangen.

Gosodwyd seiliau cyfraith rhyfel fodern gan Gytundebau Den Haag 1899 a 1907. Diffiniwyd troseddau rhyfel yn fanylach ar gyfer Treialon Nuremberg ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Ar 1 Gorffennaf, 2002, ffurfiwyd Llys Rhyngwladol yn Den Haag yn yr Iseldiroedd gyda'r hawl i ddwyn achos yn erbyn unrhyw un am droseddau rhyfel. Fodd bynnag, gwrthododd rhai gwledydd gymeryd rhan, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Tsieina ac Israel.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 200.