Neidio i'r cynnwys

Ursula Kuczynski

Oddi ar Wicipedia
Ursula Kuczynski
FfugenwRuth Werner Edit this on Wikidata
GanwydUrsula Maria Kuczynski Edit this on Wikidata
15 Mai 1907 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 2000 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Man preswylShanghai, Moscfa, Dwyrain Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethactor, llenor, asiant deallusrwydd, newyddiadurwr, gwrthryfelwr milwrol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ullstein Verlag Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Undod Sosialaidd yr Almaen, Plaid Gomiwnyddol yr Almaen, Linkspartei.PDS Edit this on Wikidata
TadRobert René Kuczynski Edit this on Wikidata
PriodRudolf Hamburger, Len Beurton Edit this on Wikidata
PlantMaik Hamburger Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Karl Marx, Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen, Urdd y Faner Goch, Urdd y Faner Goch, Urdd Cyfeillgarwch Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen oedd Ursula Kuczynski (15 Mai 1907 - 7 Gorffennaf 2000) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, newyddiadurwr a gwrthryfelwr milwrol.

Fe'i ganed yn Schöneberg, Prwsia (rhan o Berlin erbyn heddiw) a bu farw yno hefyd; fe'i claddwyd yn Friedhof Baumschulenweg.[1][2][3][4][5] Roedd Maik Hamburger yn blentyn iddi ac roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Undod Sosialaidd yr Almaen, Plaid Gomiwnyddol yr Almaen a Phlaid Asgell Chwith, y PDS. Ymhlith yr enwau eraill a ddefnyddiodd roedd Ruth Werner, Ursula Beurton ac Ursula Hamburger.[6][7][8]

Roedd yn weithredwr Comiwnyddol o'r Almaen a weithiai i'r Undeb Sofietaidd yn y 1930au a'r 1940au fel ysbïwr. Mae'n fwyaf adnabyddus fel y person a edrychai ar ôl y gwyddonydd niwclear Klaus Fuchs.

Symudodd i Ddwyrain yr Almaen ym 1950 pan ddaeth yr wybodaeth amdani i'r fei, a chyhoeddodd gyfres o lyfrau yn ymwneud â'i gwaith sbïo, gan gynnwys ei hunangofiant, Sonjas Rapport. Cyfeirir ati'n aml gyda'r llysenw hwn, "Sonja", a awgrymwyd yn wreiddiol gan ei 'gofalwr' Richard Sorge yn y 1930au,[6][9] "Sonja Schultz"[7] neu wedi iddi symud i Loegr, "Sonya".[8]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Roedd Ursula Maria Kuczynski yn ail o'r chwe phlentyn a aned i'r economegydd a'r demograffydd nodedig Robert René Kuczynski a'i wraig Berta Gradenwitz (Kuczynski), a oedd yn arlunydd.[10] Roedd y plant yn alluog ac roedd y teulu'n llewyrchus, yn ariannol.[10] Byddai ei brawd hŷn, Jürgen yn ddiweddarach yn dod yn hanesydd-economegydd nodedig ac roedd ganddo yntau berthynas honedig gyda'r gymuned ysbïo.[8][11]

Magwyd Ursula mewn fila bach yn chwarter Schlachtensee yn ne-orllewin Berlin. Pan oedd yn un ar ddeg oed, glaniodd rôl sgrîn yn y fersiwn sinema o "Tŷ y Tair Chwaer" (Almaeneg: Das Dreimäderlhaus; 1918).[12]

Mynychodd ysgol uwchradd y Lyzeum yn Berlin-Zehlendorf ac yna, rhwng 1924 a 1926, ymgymerodd â phrentisiaeth fel prynnwr-a-gwerthwr llyfrau. Roedd hi eisoes, ym 1924, wedi ymuno â Chynghrair Gweithwyr Am-ddim (AfA-Bund), ac ym 1924 hefyd ymunodd â'r Comiwnyddion Ifanc (KJVD) a Chymorth Coch yr Almaen (Rote Hilfe). Ym mis Mai 1926, mis ei phen-blwydd yn 19 oed, ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol yr Almaen. [13]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Karl Marx, Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen (1977), Urdd y Faner Goch (1937), Urdd y Faner Goch (1969), Urdd Cyfeillgarwch (2000) .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2022.
  2. Rhyw: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2022. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 18 Hydref 2015. "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 18 Hydref 2015. "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ruth Werner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  6. 6.0 6.1 "GESTORBEN Ruth Werner". Der Spiegel (online). 10 Gorffennaf 2000. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-19. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  7. 7.0 7.1 Bernd-Rainer Barth; Karin Hartewig. "Werner, Ruth (eigtl.: Ursula Maria Beurton) geb. Kuczynski * 15.05.1907, † 07.07.2000 Schriftstellerin, Agentin des sowjetischen Nachrichtendienstes GRU". Bundesstiftung zur Aufarbeitung der SED-Diktatur: Biographische Datenbanken. Cyrchwyd 1 Ionawr 2015.
  8. 8.0 8.1 8.2 Richard Norton-Taylor (11 Gorffennaf 2000). "Ruth Werner: Communist spy who passed the west's atomic secrets to Moscow in the cause of fighting fascism". The Guardian (online). Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  9. Eckhard Mieder (3 Chwefror 2001). "Wenn die Sonja Russisch tanzt Der letzte Rapport der Ruth Werner. Orte eines geheimen Lebens: SCHANGHAI. DAS HOTEL". Berliner Zeitung (online). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-26. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  10. 10.0 10.1 Thomas Karny (11 Mai 2007). ""Sonja" – Stalins beste Spionin". Wiener Zeitung (online). Cyrchwyd 3 Ionawr 2015.
  11. Ilko-Sascha Kowalczuk. "Kuczynski, Jürgen * 17.9.1904, † 6.8.1997 Wirtschaftshistoriker". Bundesstiftung zur Aufarbeitung der SED-Diktatur: Biographische Datenbanken. Cyrchwyd 1 Ionawr 2015.
  12. "Ruth Werner (I) (1907–2000)". IMDb. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  13. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2022.