Neidio i'r cynnwys

Xiye Bastida

Oddi ar Wicipedia
Xiye Bastida
Ganwyd18 Ebrill 2002 Edit this on Wikidata
Bwrdeistref Atlacomulco Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Mecsico Mecsico
Alma mater
  • The Beacon School Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd, ymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata
MamGeraldine Patrick Encina Edit this on Wikidata

Mae Xiye Bastida (ganwyd 18 Ebrill 2002) yn ymgyrchydd hinsawdd Mecsicanaidd-Chileaidd ac yn aelod o genedl frodorol Mecsico Otomi - Toltec. Hi yw un o brif drefnwyr Fridays for Future ar gyfer Dinas Efrog Newydd ac mae wedi bod yn llais blaenllaw pobl frodorol a mewnfudwyr yn yr UDA mewn ymgyrchu yn erbyn newid hinsawdd.[1] Mae hi ar bwyllgor gweinyddu Mudiad Hinsawdd y Bobl (People's Climate Movement) ac yn gyn-aelod o Sunrise Movement ac Extinction Rebellion. Hi yw cyd-sylfaenydd Re-Earth Initiative, sefydliad rhyngwladol dielw sy'n gynhwysol ac yn groestoriadol “yn union fel y dylai'r mudiad hinsawdd fod.”

Bywyd ac addysg gynnar

[golygu | golygu cod]
Bastida yn aros i Thunberg gyrraedd Dinas Efrog Newydd, 2019

Ganed Bastida yn Atlacomulco, Mecsico i'w rieni Mindahi a Geraldine, sydd hefyd yn amgylcheddwyr,[2] ac fe'i magwyd yn nhref San Pedro Tultepec yn Lerma.[3][4] Mae hi o dras Otomi - Toltec (sef Mecsicanaidd brodorol) ac Astec ar ochr ei thad a Chile Ewropeaidd o dras Geltaidd ei mam.[5][6] Ar hyn o bryd mae gan Bastida ddinasyddiaeth deuol: Mecsicanaidd a Chile.[7]

Symudodd Bastida a'i theulu i Ddinas Efrog Newydd ar ôl i lifogydd eithafol daro eu tref enedigol, San Pedro Tultepec yn 2015 yn dilyn tair blynedd o sychder.[8]

Mynychodd Bastida Ysgol Beacon [9] a dechreuodd ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Pennsylvania yn 2020.[10]

Gweithredu

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Bastida ymgyrchu fel aelod o Glwb amgylcheddol. Protestiodd y clwb yn Albany a Neuadd y Ddinas Efrog Newydd gan lobïo dros y CLCPA (neu the Climate and Community Leaders Protection Act / Deddf Diogelu Arweinwyr Hinsawdd a Chymuned) a'r Mesur Adeiladau Brwnt.[11] Dyna pryd y clywodd am Greta Thunberg a'i streiciau yn erbyn newid hinsawdd.

Rhoddodd Bastida araith ar Cosmoleg Frodorol yn 9fed Fforwm Trefol y Byd y Cenhedloedd Unedig, a dyfarnwyd iddo wobr “Ysbryd y Cenhedloedd Unedig” yn 2018.[12]

Arweiniodd Bastida ei hysgol uwchradd, The Beacon School,[13] yn y streic hinsawdd fawr gyntaf yn Ninas Efrog Newydd ar 15 Mawrth 2019.[14] Cyfarchodd hi ac Alexandria Villaseñor Thunberg yn swyddogol ar ôl iddi gyrraedd o Ewrop mewn cwch ym mis Medi 2019 i fynd i Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.[15] Llysenwyd Xiye yn "Greta Thunberg America" ond mae wedi dweud bod "galw gweithredwyr ifanc eraill yn 'Greta Thunberg' eu gwlad yn difrio profiad personol Greta a'i hymgyrchu unigol hi".[16][17]

Rhyddhaodd Teen Vogue raglen ddogfen fer We Rise ar Bastida yn Rhagfyr 2019.[18] Cydweithiodd Bastida hefyd â 'Ffilm 2040' i greu fideo fer o'r enw Imagine the Future yn archwilio sut y gallai tirweddau a dinasluniau edrych yn y dyfodol.

Cyfrannodd Bastida hefyd at All We Can Save, blodeugerdd o ferched yn ysgrifennu am newid hinsawdd.[19] Yn ddiweddar, siaradodd yn yr Uwchgynhadledd Arweinyddiaeth ar Hinsawdd a gynhaliwyd gan Weinyddiaeth Biden, gan draddodi araith yn annog arweinwyr y byd i gymryd mwy o ran mewn ymgytrchu yn erbyn newid hinsawdd.[20]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • We Rise (2019)
  • imagine the future (2020)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Burton, Nylah (11 Hydref 2019). "Meet the young activists of color who are leading the charge against climate disaster". Vox. https://www.vox.com/identities/2019/10/11/20904791/young-climate-activists-of-color. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  2. Vincent, Maddie (17 Awst 2019). "Youth activists stress collaboration, urgency to respond to climate change". Aspen Times. https://www.aspentimes.com/news/youth-activists-stress-collaboration-urgency-to-respond-to-climate-change/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  3. "How an Indigenous Teen Climate Activist Plans to Change the World". Teen Vogue. 19 December 2019. https://www.teenvogue.com/video/watch/how-an-indigenous-teen-climate-activist-plans-to-change-the-world. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  4. Bagley, Katherine (7 Tachwedd 2019). "From a Young Climate Movement Leader, a Determined Call for Action". Yale Environment 365. https://e360.yale.edu/features/from-a-young-climate-movement-leader-a-determined-call-for-action. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  5. Perry, Aaron William (27 Awst 2019). "Episode 46 – Xiye Bastida, Global Youth Leader: "Strike with Us!"". Yale Environment 360. https://yonearth.org/podcast-archive/episode-46-xiye-bastida-global-youth-leader-strike-with-us/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  6. Tierra, Desafío (28 Awst 2019). "Xiye Bastida, la adolescente de madre chilena que recibió a Greta Thunberg en su llegada a Nueva York" (yn es). CNN Chile. https://www.cnnchile.com/cop25/xiye-bastida-activista-madre-chilena-greta-thunberg_20190828/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  7. Labayen, Evalena (10 December 2019). "Environmental activist Xiye Bastida says "OK, Doomers"". Interview Magazine. https://www.interviewmagazine.com/culture/environmental-activist-xiye-bastida-says-ok-doomers. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  8. Lucente Sterling, Anna (25 Medi 2019). "This Teen Climate Activist Is Fighting To Ensure Indigenous And Marginalized Voices Are Being Heard". HuffPost. https://www.huffpost.com/entry/xiye-bastida-climate-activism_n_5d8a7ec9e4b0c6d0cef3023e. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  9. ""Young People Have Had Enough": Global Climate Strike Youth Activists on Why They Are Marching Today". Democracy Now. 20 Medi 2019. https://www.democracynow.org/2019/9/20/global_climate_strike_new_york_minnesota. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  10. Meisenzahl, Elizabeth (28 Mawrth 2020). "Hailing from Tennessee to Indonesia, meet five members of the newly admitted class of 2024". Daily Pennsylvanian. https://www.thedp.com/article/2020/03/penn-admitted-students-class-of-2024. Adalwyd 22 Medi 2020.
  11. Labayen, Evalena (10 December 2019). "Environmental activist Xiye Bastida says "OK, Doomers"". Interview Magazine. https://www.interviewmagazine.com/culture/environmental-activist-xiye-bastida-says-ok-doomers. Adalwyd 3 Chwefror 2020.Labayen, Evalena (10 December 2019).
  12. "Xiye Bastida". Omega. Cyrchwyd 3 Chwefror 2020.
  13. ""Young People Have Had Enough": Global Climate Strike Youth Activists on Why They Are Marching Today". Democracy Now. 20 Medi 2019. https://www.democracynow.org/2019/9/20/global_climate_strike_new_york_minnesota. Adalwyd 3 Chwefror 2020.""Young People Have Had Enough": Global Climate Strike Youth Activists on Why They Are Marching Today".
  14. Kamenetz, Anya (19 Ionawr 2020). "'You Need To Act Now': Meet 4 Girls Working To Save The Warming World". NPR. https://www.npr.org/2020/01/19/797298179/you-need-to-act-now-meet-4-girls-working-to-save-the-warming-world. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  15. Cimons, Marlene (19 Medi 2020). "Meet Xiye Bastida, America's Greta Thunberg". PBS. https://www.pbs.org/wnet/peril-and-promise/2019/09/meet-xiye-bastida-americas-greta-thunberg/. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  16. "Meet Xiye Bastida, America's Greta Thunberg". Peril & Promise (yn Saesneg). 2019-09-19. Cyrchwyd 2020-05-18.
  17. "My name is not Greta Thunberg: Why diverse voices matter in the climate movement". theelders.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-16.
  18. Kirkland, Allegra (19 December 2019). "Xiye Bastida Opens Up About the Personal Costs of Activism In Documentary 'We Rise'". Teen Vogue. https://www.teenvogue.com/story/xiye-bastida-climate-activist-documentary. Adalwyd 3 Chwefror 2020.
  19. "Contributors". All We Can Save (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-11.
  20. "Mexican environmentalist, 19, reprimands world leaders for climate inaction". Mexico News Daily (yn Saesneg). 2021-04-23. Cyrchwyd 2021-04-24.