Neidio i'r cynnwys

Carina

Oddi ar Wicipedia
Carina
Cytser
Carina
ByrfoddCar
Cyflwr genidolCarinae
Ynganiad/kəˈrnə/, genitive /kəˈrn/
Symboliaethy cilbren
Esgyniad cywir06h 02m 59.7365s–11h 20m 37.4211s[1]
Gogwydd−50.7545471°–−75.6840134°[1]
TeuluDyfroedd Nefolaidd
Arwynebedd494 deg. sg. (34ed)
Prif Sêr9
Dynodiad Bayer/
Flamsteed
sêr
52
Sêr gyda phlanedau11
Sêr goleuach na 3.00m6
Sêr o fewn 10.00 pc (32.62 blwydd gol.)1
Seren fwyaf llacharCanopus (α Car) (−0.72m)
Seren agosafLHS 288
(14.64 ly, 4.49 pc)
Gwrthrychau Messier0
Cawodydd o sêr gwib
Cytser
cyfagos
Yn weladwy ar +20fed Paralel Gogleddol° a −90°.
Mwayf gweladwy am 21:00 (9 y. h.) yn ystod mis Mawrth.

Cytser yn y wybren ddeheuol yw Carina. Daw'r enw o'r Lladin am gilbren y llong Argo Navis, sef enw llong fytholegol Jason a'i Argonauts. Arferai Carina fod mewn cytser mwy a oedd hefyd yn cynnwys Vela, yr hwyl, a Puppis, to a bwrdd y llong, hyd nes i'r seryddwr Ffrengig, Nicolas Louis de Lacaille, ddarnio'r cytser yn dair rhan yn y 18g.[2]

Serch y rhaniad, ac er mwyn cofio'r hen chwedl, cadwodd Lacaille y dynodiadau Bayer Argo Navis. Felly mae'r α, β ac ε gyda Carina, mae'r γ a'r δ gyda Vela ac mae'r ζ gyda Puppis ayb.

Mae gogwydd Carina rhwng -50° a -75° (yn fanwl: -50.7545471 a -75.6840134), ac mae hi felly'n rhy bell yn y de i'w gweld o Gymru.

Y cytser Carina fel y'i gwelir gan lygaid noeth.

Mae Carina'n cynnwys Canopus, seren orgawr wen a'r ail ddisgleiriaf yn awyr y nos, gyda maintioli serol o -0.72 a phellter o 313 blwyddyn golau. Mae'r enw traddodiadol yn dod o'r mordwywr (neu 'fforiwr') Menelaus, brenin Sparta.[2] Alpha Carinae yw'r dynodiad Bayer.

Seren newidiol amlycaf yn Carina yw Eta Carinae. Mae hi'n pwyso tua 100 màs haul, ac mae hi'n 4 miliwn gwaith mwy disglair na'r Haul. Denodd hi sylw yn 1677, pan gododd ei maintioli'n sydyn i 4 fel y sylwodd y seryddwr Edmond Halley. Yn 1827 cododd y maintioli i 1, gwanhaodd ei golau i faintioli 1.5 yn 1828. Pan ymfflamychodd Eta Carinae yn 1843, cododd ei maintioli i -1.5, fel Sirius. Ers 1843 mae'r Eta Carinae wedi bod yn ddiddig gyda maintioli o rhwng 6.5 a 7.9. Seren ddwbl yw Eta Carinae. Mae ganddi gyfnod o 5.5 blwyddyn gyda'r cydymaith. Y Homunculus Nebula sy'n amgáu'r ddwy seren. Ganwyd ei nifwl yn 1843 pan allfwriwyd eu nwy.[2]

Ceir sawl seren newidiol llai amlwg yng ngysawd Carina. Seren newidiol Cepheid yw l Carinae. Mae hi'n nodedig am fod y Cepheid mwyaf disglair i'r llygad noeth (hy heb gymorth). Seren orgawr felyn yw hi, gyda maintioli lleiaf o 4.2 a maintioli mwyaf o 3.3. Mae ei chyfnod yn 35.5 diwrnod.[2]

Mae dwy seren newidiol Mira yn Carina: R Carinae a S Carinae. Sêr cawraidd coch yw'r ddwy. Mae maintioli lleiaf R Carinae yn 10.0 a'i maintioli mwyaf yn 4.3. 309 diwrnod yw ei chyfnod hi ac mae hi'n 416 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae'r S Carina yn debyg, gyda maintioli lleiaf o 10.0 a maintioli mwyaf o 5.5. Fodd bynnag, mae ganddi gyfnod byrrach: 150 dirwnod, gan ei bod llawer pellach o'r Ddaear (1300 blwyddyn golau).

Mae yn ei chysawd sawl seren ddwbl. Seren ddwbl gyda dwy seren gawraidd glaswen yw Upsilon Carinae sy'n 1600 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae maintioli 3.0 gyda'r seren gynradd ac mae maintioli 6.0 gyda'r seren eilaidd. Gellir gwahaniaethu rhwng y ddwy gyda thelesgop bach amatur hyd yn oed.[2]

Dwy seroliaeth (asterism yn Saesneg) sy'n amlwg yn Carina. Mae'r Groes Ddiemwnt yn fwy na'r Groes Ddeheuol ond yn llai disglair. Camgymerir y Groes Anwir, seroliaeth arall, yn aml am y Groes Ddeheuol, seroliaeth yn Crux. Mae'r Groes Anwir yn cynnwys Iota Carinae ac Episilon Carinae a dwy seren yn Vela, Kappa Velorum a Delta Velorum.[2]

Gwrthrychau Awyr Dwfn

[golygu | golygu cod]

Mae Carina'n adnabyddus am y nifwl o'r un enw (Nifwl Carina), NGC 3372,[3]. Darganfuwyd ef gan seryddwr Ffrengig Nicolas Louis de Lacaille yn 1751. Nifwl allyriad enfawr yw'r Nifwl Carina ac mae'n cynnwys sawl nifwl. Mae tua 8,000 blwyddyn golau i ffwrdd a 300 blwyddyn golau llydan gyda bröydd anferth sy'n creu sêr.[4] Mae'r maintioli cyflawn yn 8.0[5] a'i ddiamedr ymddangosiadol yn fwy na dwy radd.[2]

Y 'nifwl twll clo' (neu'r Keyhole Nebula) yw rhan ganolog Nifwl Carina. Rhoddodd John Herschel yr enw i'r ardal hon yn 1847. Mae'r twll clo yn 7 blwyddyn golau lydan, ac fe'i adeiladwyd o atomau Hydrogen wedi'u hïoneiddio, gyda dwy ardal 'creu sêr' amlwg.[6]. Nifwl planedol yw'r Homunculus Nebula sy'n weledig i'r llygad noeth. Creodd Eta Carinae y nifwl yn 1840 tra alldaflodd y seren nwy mewn ffrwydrad enfawr.[4]


Ceir nifer enfawr o glystyrau agored yng nghytser Carina, oherwydd fod y Llwybr Llaethog yn llifo drwy Carina. Mae NGC 2516 sy'n clwstwr agored eithaf mawr, tua hanner gradd sgwâr, ac yn ddisglair, yn weledig i'r llygad noeth. Mae e'n 1,100 blwyddyn golau o'r Ddaear, ac mae ganddo 80 seren. Y disgleiriaf sydd seren gawr goch gyda maintioli 5.2. Clwstwr agored arall yw NGC 3114, ond mae e'n fwy pell, 3,000 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae e'n fwy ar chwâl a llai llachar na NGC 2516 gan nad yw ei sêr mwyaf disglair yn ddim ond maintioli chwech. Y clwstwr agored mwyaf amlwg yn Carina yw IC 2602, a elwir hefyd yn 'Pleiades Deheuol'. Mae'n cynnwys Theta Carinae yn ogystal â sêr eraill sy'n weledig i'r llygad noeth. Mae gan y clwstwr cyfan 60 seren. Mae'r Pleiades Deheuol yn arbennig o fawr i glwstwr agored, gyda diamedr o tua un radd. Fel IC 2602, NGC 3532 mae'n weledig i'r llygad ac mae e'n debyg o ran maint. Mae ganddo 150 seren, ac maen nhw'n gwneud siâp fel elíps, gydag ardal ganolog dywyll.

Hefyd, mae'r Carina yn cynnwys y clwstwr crwn NGC 2808 ac mae e'n weledig i'r llygad noeth.

Un clwstwr galaeth amlwg yw 1E 0657-56 y 'Clwstwr Bwled'). Enwyd y clwstwr hwn oherwydd y 'don sioc' (shock wave) a welir yn y 'cyfrwng rhwng clystyrau' ac sy'n ymdebygu i don sioc o fwled uwchsonig. Credir bod y don sioc yn weledig achos fod y clwstwr galaeth bach yn symud gyda chyflymder o rhwng 3000-4000 cilometr yr eiliad yn erbyn y clwstwr galaeth fawr. Dinistrir y clwstwr bach gan y clwstwr mawr trwy ryngweithiad disgyrchol. Ar ddiwedd y dydd, bydd yn cyfuno gyda'r clwstwr mawr.[7]

Sêr gwib

[golygu | golygu cod]

Mae Carina'n cynnwys trwyn pelydrol y gawod feteor Eta Carinids sy'n dod i'w hanterth oddeutu 21 Ionawr pob blwyddyn.

Hanes a Mytholeg

[golygu | golygu cod]

Ceir y disgrifiad cynharaf o'r Argo Navis, y llong fytholegol roedd Carina'n rhan ohoni, yn y chweban Phaenomena gan Aratus o Soli. Mae'n disgrifio llong gyda dim ond hanner y starn, neu ben-ôl y cwch, yn weladwy a'i bod wysg y chefn, fel llong symud mewn harbwr. [8] Pseudo-Eratosthenes sydd yn dweud y rhoddwyd y llong yn yr wybren gan Athena, fel y llong gyntaf. [9] Mynnodd Hyginus mai llong Jason yw hi i fynd ar antur i chwilio am y cnu aur.[10]

Ganwyd Carina pan gatalogiodd Lacaille y sêr deheuol o'r Penrhyn Gobaith Da. Tra'n gweithio, creodd 14 cytser newydd yn yr awyr ddeheuol, gyda ffiniau newydd i dri chytser yn Argo Navis: Carina, Vela a Puppis. Cyhoeddwyd y catalog yn 1763, ar ôl marwolaeth Lacaille yn 1762.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Carina, constellation boundary". The Constellations (International Astronomical Union). http://www.iau.org/public/constellations/#car. Adalwyd 15 Chwefror 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Ridpath & Tirion 2001, tt. 104–106.
  3. Levy 2005, t. 100.
  4. 4.0 4.1 Wilkins & Dunn 2006, t. 220.
  5. Levy 2005, t. 101.
  6. Wilkins & Dunn 2006, t. 218.
  7. Wilkins & Dunn 2006, t. 472-3.
  8. Kidd 1997, t. 99 & 311.
  9. Condos 1997, t. 39.
  10. Condos 1997, t. 40.
  • Condos, Theony (1997). Star Myths of the Greeks and Romans: A Sourcebook. Phanos. ISBN 1-890482-93-5.CS1 maint: ref=harv (link)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfryngau perthnasol Carina (constellation) ar Gomin Wicimedia