Triangulum (cytser)
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cytser |
---|---|
Rhan o | Northern celestial hemisphere |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cytser bychan yn y gogledd yw Triangulum, a elwir felly am fod ei dair seren disgleiriaf yn ffurfio triongl estynedig. Mae'n un o'r 88 cytser modern, ac un o'r 48 traddodiadol a restrir gan y seryddwr Ptolemi.
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Does gan Triangulum ddim sêr o'r magnitiwd cyntaf. Ei sêr disgleiriaf yw β Trianguli (magnitiwd 3.00) ac α Trianguli (m 3.41).
Gwrthrychau pwysig
[golygu | golygu cod]Triangulum yw lleoliad Galaeth Triangulum, M33, un o'r galaethau yn y Grŵp Lleol. Mae'n 2.9 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd, a gyda magnitiwd o 5.8 mae'n ddigon disglair i'w gweld â'r llygaid yn unig ar nosweithiau clir.
Hanes a mytholeg
[golygu | golygu cod]Un o enwau cynnar y cytser oedd Sicilia, am y credid fod Ceres, nawdd-dduwies Sisili, wedi deisyfu'r duw Iau i roi'r ynys honno yn y nefoedd.