Croes Sant Brynach
Enghraifft o'r canlynol | croes eglwysig |
---|---|
Rhan o | Eglwys Sant Brynach |
Lleoliad | Eglwys Sant Brynach |
Rhanbarth | Sir Benfro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Croes Sant Brynach neu Croes Nanhyfer yn groes garreg o'r 10fed neu'r 11eg ganrif yn eglwys Sant Brynach, Nanhyfer.
Hanes
[golygu | golygu cod]Credir bod y groes yn dyddio o'r 10fed neu'r 11eg ganrif. Yn ôl y chwedl mae gôg cyntaf y flwyddyn yng Ngorllewin Cymru yn sefyll ar ben y groes ac yn canu ar ddydd gwledd Sant Brynach ar y 7fed o Ebrill.[1]
Saif y groes yn 3.72m o daldra ym mynwent Eglwys Sant Brynach a nodwyd yn ei safle presennol gyntaf yn 1603 gan George Owen, Henllys.[2]
Mae'r groes yn ddeuddarn, wedi'i gwneud o garreg Ordofigaidd; y siafft hirsgwar a'r pen croes. Mae'r groes yn dangos patrymau rhyngblethedig a ffret wedi'u cerfio i'r graig sydd â dylanwad Llychlynwyr. Mae arysgrif "DNS" ar ochr orllewinol y groes yn cyfieithu fel "Arglwydd" ac mae arysgrif ar yr wyneb dwyreiniol yn cyfieithu fel "Hauen".[2]
Mae’n debygol bod Croes Sant Brynach a Chroes Caeriw wedi’u gwneud yn yr un gweithdy mynachlog ac yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif neu ddechrau’r 11eg ganrif.[3]
Ystyrir Croes Brynach Sant, Croes Caeriw a Maen Achwyfan yn dair croes eithriadol Cymru.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Archaeoleg Cymru
- Cymru yn yr Oesoedd Canol
- Croes Caeriw
- Croes Maen Achwyfan
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rees, Huw (6 Hydref 2022). Wales on This Day (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-1-915279-12-5.
- ↑ 2.0 2.1 "English – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
- ↑ Hull, Derek (2003-01-01). Celtic and Anglo-Saxon Art: Geometric Aspects (yn Saesneg). Liverpool University Press. t. 215. ISBN 978-0-85323-549-1.
- ↑ Pemberton, Cintra (October 1999). Soulfaring: Celtic Pilgrimages Then and Now (yn Saesneg). Church Publishing, Inc. t. 177. ISBN 978-0-8192-1780-6.