Francisco Madero
Gwedd
Francisco Madero | |
---|---|
Yr Arlywydd Francisco Madero | |
Ganwyd | 30 Hydref 1873 Parras de la Fuente |
Bu farw | 22 Chwefror 1913 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, cerddor, person milwrol, person busnes |
Swydd | Arlywydd Mecsico |
Plaid Wleidyddol | Partido Nacional Antirreeleccionista, Progressive Constitutionalist Party |
Tad | Francisco Madero Hernández |
Priod | Sara Pérez de Madero |
Gwleidydd a milwr o Fecsico oedd Francisco Indalecio Madero (30 Hydref 1873 – 22 Chwefror 1913) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1911 i 1913 wedi iddo arwain chwyldro i ddymchwel yr unben Porfirio Díaz.
Ganwyd yn Parras yn nhalaith Coahuila yng ngogledd Mecsico, i deulu o dirfeddianwyr cefnog. Fe'i danfonwyd i'r Unol Daleithiau i fynychu Coleg Mount St. Mary's yn Emmitsburg, Maryland, o 1886 i 1888. Astudiodd mewn ysgol fusnes ym Mharis ac ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Francisco Madero. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2019.